Mae’r byd yn llawn syniadau da ond nid pob un sy’n dod i ffrwyth, hoffai reach newid hynny.
Mae reach yn chwilio am 20 syniad am brosiectau arloesol a chynaliadwy o fewn £10,000 a gallai wella economi neu ansawdd bywyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gwledig.

Rydym yn fodlon rhoi cynnig ar syniadau sy’n dangos addewid i fedru trawsnewid.
Pwy a beth gall ymgeisio i’r gronfa?
Gall Dewch i Arloesi weithio gydag unigolion, grwpiau a busnesau i gomisiynu prosiectau a fydd yn dod a budd i gymunedau gwledig Mhen-y-bont ar Ogwr. Os byddech angen cymorth i roi'r prosiect ar waith, medrwch weithio gydag eraill, rhowch wybod i ni.
Lle sy’n wledig ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Byddwn yn chwilio am enghreifftiau o gynnyrch, gwasanaethau neu astudiaethau arloesol sy’n datblygu dulliau neu farchnadoedd newydd, yn galluogi busnesau newydd, sy’n syniadau newydd i’r sir neu yn hollol wreiddiol, sydd yn gynaliadwy a deniadol ac sy’n dosbarthu effaith drawsnewidiol.
Rhoi cyfle i’ch syniad chi
I ddechrau, bydd angen i chi ddweud wrthym pam eich bod wedi dod ar draws ymateb arloesol, sut y gallai weithio a sut y byddech yn gwario’r £10,000 i’w ddatblygu.
Defnyddiwch y blwch isod i wneud cais am becyn neu dewch o hyd i ni ar-lein ar www.bridgendreach.org.uk
Pethau bach pwysig
Caiff prosiectau eu comisiynu gan y reach Local Action Group trwy broses cystadleuol hyd nes bod y gronfa wedi ei glustnodi, gwelwch y wefan am y wybodaeth berthnasol.
Bydd gofyn i bob prosiect gyfrannu £1,000. Mewn rhai achlysuron gall reach eich cynorthwyo i ddod o hyd iddo.
Bydd gofyn i bob prosiect Dewch i Arloesi gael ei gyflawni erbyn Tachwedd 2013. Golyga hyn bod angen cwblhau’r prosiect a thalu allan yn gyfan o’r gronfa.
Ariennir y gronfa hon yn rhannol drwy Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Pecyn gwybodaeth AM DDIM
I wneud cais am becyn gwybodaeth innau ebostiwch rural.development@bridgendreach.org.uk neu ffoniwch 01656 815080.
I ofyn am becyn drwy'r post, ysgrifennwch at Dewch i Arloesi, Rhaglen Datblygiad Gwledig reach, Uned 3-5 Castle View, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1NJ
Mi fydd y papurau ar gael i'w lawrlwytho yma cyn pen dim.
