Cynllun Cymunedau Gwledig Ffyniannus (TRC)
Mae Cynllun Cymunedau Gwledig Ffyniannus (TRC) yn Gronfa leol i Ben-y-bont ar Ogwr Wledig a’i cyllidwyd o dan y cynllun LEADER Ewropeaidd.
Beth sydd ar gael?
Gall Cymunedau Gwledig Ffyniannus gynnig cymorth ar ffurf cyllid Refeniw ar gyfer prosiectau hyd at £100,000. Gellir defnyddio’r gronfa i ddatblygu, treialu a phrofi syniadau a allai fod o gymorth i wella ac adfywio cymunedau gwledig* Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Beth mae'n ei wneud?
Mae yma i arloesi, ymchwilio ac i weithio ar y cyd ac i wneud yr hyn na fedrai cronfeydd eraill ei gwneud. Yn bwysig iawn, caiff ei harwain gan y gymuned i ymateb i’ch anghenion chi ac i ddatrys herion fywyd cyfoes mewn ardaloedd gwledig.
Mae’n gynllun hollol refeniw ar gyfer partneriaethau neu grwpiau sy’n barod i ddod at ei gilydd i gydweithio a chomisiynu prosiectau gyda ni. Mae yna i gefnogi prosiectau i ddigwydd yn eich cymuned chi o dan eich arweiniad ac rydym yn barod i dderbyn eich ceisiadau.
Rydym yn croesawu eich ffurflenni Datganiad o Ddiddordeb ar hyn o bryd neu medrwch chi gael sgwrs ag un o swyddogion Reach am yr hyn sydd ganoch mewn golwg.
Ein bwriad yw datblygu pob prosiect mewn partneriaeth ac felly byddwn yn cynnwys cymaint o bartneriaid priodol ac y medrwn yn y broses, o ddatblygu’r syniad yr holl ffordd drwy i’w gyflawni. mae hyn yn helpu i sicrhau fod angen eglur am y prosiect a’i fod yn cynhyrchu buddion eang i’r gymuned.
Mae yna broses teg a thryloyw yn ei le i sgorio ac asesu pob cais a ddaw i mewn. Gall swyddogion Reach eich helpu gyda hyn ond mae’r canllawiau ar gael i’w lawr lwytho ar y dudalen Pecynau Gwybodaeth.
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd cymunedau gwledig a sefydliadau partner i gyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer cynigion prosiectau a fydd yn gwneud newid cadarnhaol i les economaidd ac ansawdd bywyd y rhai hynny sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr Wledig, yn gweithio yno ac yn ymweld â’r lle*.
Mae ganom Strategaeth Datblygu Leol hyd at 2020 sydd yn nodi camau gweithredu a blaenoriaeth i’r ardal y gall y Grŵp Gweithredu Lleol fynd i’r afael a nhw.
Mae dwy gronfa ar gael

Cynllun Cymorth Paratoadwy
Mae cymorth ar gael I brosiectau sydd yn cyfateb a’r gofynion canlynol:
Nid yw’r prosiect yn costio mwy na £7,500
Nid yw’r prosiect yn cynnwys cynllun peilot neu dreualai ymarfeol
Bydd y prosiect yn darparu gweithgareddau cymwys fel a ganlyn:
- Astudiaethau ar raddfa fach
- Cynlluniau gwaith lleol neu gynlluniau datblygu
- Ymchwil ar raddfa fach
- Gweithgareddau ymgynghori
Cynllun Cymunedau Gwledig Ffyniannus
Mae’r prif Gynllun yn medru darparu cymorth i weithgareddau cymwys fel a ganlyn:
- Hyfforddi, mentora, hwyluso ac ymgynghori,
- Ymchwil, astudiaethau dichonoldeb a chynlluniau datblygu ar raddfa fawr,
- Pecynnau cymorth ac adnoddau arloesol ac hawdd ei defnyddio,
- Treialu prosiectau peilot ar ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau yn y gymuned,
- Datlbygu hybiau a rhwydwetihiau cymunedol megis grwp gwirfoddoli.
Y broses o gyflwyno cais
- Cyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb i dîm Reach
- Caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei sgrinio o ran cymhwysedd ar gyfer innau’r cyllid uniongyrchol neu gymorth paratoadwy.
- Os yw’n gymwys, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais cyflawn gyda chymorth un o’n cydlynwyr.
- Cyflwynir y cais cyflawn i’r Grŵp Gweithredu Lleol i’w gymeradwyo.
- Os cymeradwyir y prosiect, fe’i datblygir mewn partneriaeth â thîm Reach. Bydd tîm Reach yn gweithio gyda chi i gomisiynu’r prosiect ac ymdrin â threfniadau’r contractwr, wrth i chi lywio’r prosiect a darparu cyfeiriad.
Pwy gaiff gyflwyno cais?
- Grwpiau gweithredu cymunedol
- Rhwydweithiau gwledig (ffurfiol neu anffurfiol, gan gynnwys rhwydweithiau busnes)
- Sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus
- Aelodau o Grŵp Gweithredu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr
- Y corff gweinyddol ar gyfer datblygu gwledig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
* Mae ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ddiffinnir fel un wledig yn cynnwys yr holl wardiau canlynol: Abercynffig; Betws; Melin Ifan Ddu; Blaengarw; Bryncethin, Bryntirion, Trelales a Merthyr Mawr; Cefn Cribwr; Coety; Corneli; Llangeinwyr; Llangynwyd; Nant-y-moel; Drenewydd yn Notais; Cwm Ogwr; Penprysg; Pontycymer; Ynysawdre; Bryncoch; Felindre; Hendre; a Sarn.


