
Ffurflen Enwebu Grŵp Gweithredu Lleol
Mae yna Grŵp Gweithredu Lleol gan bob ardal sydd yn derbyn cyllid o dan y Cynllun Datblygu Gwledig, (a’i gelwir yn aml yn LAG). Yn yr un modd a phob LAG ar draws Ewrop, maent yn bartneriaeth o ddiddordeb preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
Mae LAG Reach Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfuno aelodau o’r sectorau hyn o fewn y sir.
Hwn yw’r corff sydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch Rhaglen datblygu Wledig 2014-2020 ac sydd yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad, a monitro cyflawniad, Strategaeth Datblygu Leol wledig yr ardal.
Ein Strategaeth Datblygu Leol
Mae hyn yn cynnwys gosod proses teg o sgorio a dewis prosiectau i’w hariannu.
Mae’n rhaid i’r LAG gynnwys o leiaf 18 aelod, felly o bryd i’w gilydd byddwn yn galw am aelodau newydd i sicrhau bod ganom ddigon o aelodau. Er hynny, mae’n bosib i unrhyw grŵp neu sefydliad sydd yn cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr wledig i enwebu cynrychiolydd i ymuno a’r LAG unrhyw bryd.


