Gwell mynediad at Ganolfan yr Eglwys Wesleaidd
Gwell mynediad at Ganolfan yr Eglwys Wesleaidd
Math o brosiect
Ariannu prosiectau
TRCF
Briff y prosiect
Mae cyllid gwerth £2,920 wedi cael ei ddyfarnu tuag at gynlluniau ar gyfer helpu i wella’r mynediad at Ganolfan yr Eglwys Wesleaidd yn Nhon-du.
Gwell mynediad at Ganolfan yr Eglwys Wesleaidd
Bydd yr arian, a ddyfarnwyd gan dîm Datblygu Gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy ei ‘Gronfa Cymunedau Gwledig Ffyniannus’, yn talu am bensaer tirwedd i lunio cynlluniau angenrheidiol ar gyfer lleoedd parcio ychwanegol, gwell mynediad at y fynedfa, yn ogystal ag ychydig o waith tirlunio, a hynny cyn i geisiadau eraill am gyllid gael eu gwneud.
Meddai’r Cynghorydd Charles Smith, Gweinidog Cabinet y cyngor ar gyfer Adfywio ac Addysg: “Roedd y tîm Reach yn falch o gefnogi’r prosiect hwn gan fod y ganolfan yn dipyn o drysor cudd.
“Cafodd y ganolfan ei hun ei hadnewyddu yn ddiweddar, ac roedd y gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y ganolfan am wneud rhai gwelliannau i’r dirwedd er mwyn i’r adeilad fod yn fwy gweladwy o’r A4063.
“Gan fod parcio hefyd wedi cael ei nodi’n broblem cyn hyn, bydd y lleoedd newydd yn golygu y bydd y ganolfan yn fwy hygyrch, ac yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio’r cyfleuster, sy’n gallu cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.”
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae yna 21 o wardiau gwledig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n gymwys i gael cyllid datblygu gwledig. Os oes gennych syniadau ar gyfer eich cymuned wledig yr hoffech eu datblygu, ewch i www.bridgendreach.org.uk neu anfon neges e-bost i reach@bridgend.gov.uk am ragor o wybodaeth.
