Grant Ynni Effeithlon Cymunedau Gwydn

Ariennir Grant Ynni Effiethlon Cymunedau Gwydn gan Gronfa Twf Lleol Lywodraeth y DU. Mae’n rhaglen grant ariannu sy’n benodol ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni cymunedol ac mae’n parhau gyda llwyddiant y rhaglen Reach, gyda’r uchelgais o ddatblygu cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr yn llefydd ffyniannus i fyw, ymweld a gweithio ynddynt.

“Bydd y Gronfa Twf Lleol yn galluogi buddsoddiadau wedi’u targedu sy’n ymateb i gyfleoedd a heriau lleol, yn gwneud y gorau o werth am arian, ac sy’n cyfrannu at economi fwy cydnerth, cynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru.”

PWY ALL WNEUD CAIS?

  • Grwpiau cymunedol corfforedig neu sefydliadau gwirfoddoli
  • Elusennau Cofrestredig
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Sefydliadau trydydd sector
  • Cwmnïau Buddiant Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio, mae croeso i chi gysylltu â reach@bridgend.gov.uk am gyngor.

 

FAINT Y GALLWCH YMGEISIO AMDANO

Mae’r Grant Cymunedau Gwydnyn un cyfalaf yn unig ac mae’n darparu 100% o gostau prosiect cymwys. Yr isafswm sydd ar gael yw £2,500 a’r mwyafswm yw £25,000 (gan gynnwys TAW nad oes modd ei adfer).

Bydd y Grant Ynni Effiethlon Cymunedau Gwydn yn cael ei ddyfarnu ar sail cyntaf i’r felin, rhaid i bob ffurflen gael ei chwblhau, a chynnwys y wybodaeth berthnasol, a’i chyflwyno gyda’r holl ddogfennau cefnogol.

Rhaid i bob prosiect llwyddiannus gael ei gwblhau erbyn 28ain o Chwefror 2027.

 

BETH ELLIR EI ARIANNU

Gall y Grant Ynni Effiethlon Cymunedau Gwydn gefnogi prosiectau effeithlonrwydd ynni cyfalaf sydd â’u ffocws ar y gymuned. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Datrysiadau ynni adnewyddadwy ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, e.e. paneli solar PV a storfeydd batri, pympiau gwres o’r aer, gwres aer i aer / pympiau oer, insiwleiddio goleuo ynni isel ac ati.
  • Prosiectau fydd yn lleihau costau rhedeg hirdymor ac ôl troed carbon y sefydliad cymunedol.
  • Gall TAW nad oes modd ei adfer fod yn gymwys i gael ei gynnwys o fewn yr hawliadau grant, cyn belled nad yw eich sefydliad wedi’i gofrestru o ran TAW. Os daw’r sefydliad i fod yn gofrestredig o ran TAW yn ystod amserlen y prosiect cyn yr hawliad olaf, yna mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw’r hawl i roi’r gorau i ariannu’r elfen TAW.
  • Prosiectau y gellir eu cwblhau erbyn dyddiad cau 28ain o Chwefror 2027.

Nodwch nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac fe ystyrir cytundeb fesul achos.

I gael ffurflen gais, cysylltwch â reach@bridgend.gov.uk

Nodiadau Canllaw >