Ariennir y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Lleoedd. Rydym yn cefnogi cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr i wneud gwaith cynllunio cadernid lleol, gan ganolbwyntio ar Iechyd, yr Hinsawdd a’r Economi.
Mae’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn parhau â llwyddiant rhaglen Reach gyda’r uchelgais o ddatblygu cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a’u troi’n lleoedd llewyrchus i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw. Mae’n rhaglen cymorth cyllido yn benodol ar gyfer datblygu astudiaethau dichonoldeb cymunedol.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Bydd ceisiadau i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn cau ar 28 Chwefror 2024.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach y llywodraeth i sicrhau ffyniant bro ym mhob rhan o’r DU ac yn darparu cyllid ar gyfer buddsoddiad lleol rhwng 2023 a 2024. Prif nod Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yw meithrin balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy