Ein tîm

Yiota Haralambos – Rheolwr Rhaglen Cymunedau Cydnerth

Mae gan Yiota 15 mlynedd o brofiad mewn Datblygu Cymunedol ac Adfywio. Mae hi wedi bod yn aelod o dîm Reach ers 2011, gan ddechrau fel Swyddog Datblygu Gwledig. Mae hi wedi ymgysylltu â chymunedau a chydlynu prosiectau a digwyddiadau treftadaeth leol ar gyfer cymunedau gwledig Pen-y-bont ar Ogwr. Wedyn, cymerodd Yiota rôl monitro a chyllid yn y tîm, lle bu’n rheoli mesuriadau ariannol a pherfformiad cymhleth ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig Reach tan 2021. Yna aeth ymlaen i weithio i Barc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) i arwain ar weithrediadau a datblygu partneriaeth gan weithio ar draws rhanbarth aml-sector yn Ne Cymru a datblygu perthynas gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant ar gyfer parhad y PRhC. Yng ngwanwyn 2023, ailymunodd Yiota â thîm Cymunedau Gwydn Reach fel arweinydd y rhaglen, i adeiladu ar lwyddiannau’r Rhaglen Datblygu Gwledig flaenorol a rheoli’r tîm i sefydlu ei hun fel rhaglen ar draws y Fwrdeistref gyfan dan arweiniad y gymuned.

Rachel Morton – Cydgysylltydd y Cymunedau Cydnerth

Mae gan Rachel gyfoeth o brofiad ym maes adfywio cymunedol ac economaidd. Cyn hyn, fe fu hi’n gweithio i dîm Datblygu Economaidd y Cyngor ar fentrau cymdeithasol a chychwyn busnesau newydd. Pan oedd yn gweithio am dros ddegawd ym maes Adfywio Cymunedol ar gyfer y Cymoedd i’r Arfordir, bu Rachel yn ymgysylltu’n eang â thrigolion a grwpiau lleol ym mhob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr ar brosiectau datblygu cymunedol ac amgylcheddol. Ar ôl tair blynedd ym Merthyr Tudful fel rheolwr prosiect adfer, mae’n hapus i fod yn dychwelyd i’w hardal leol i weithio yn y sector cymunedol. Mae’r rhaglen Cymunedau Cydnerth yn profi i fod yn gyswllt hanfodol i grwpiau Pen-y-bont ar Ogwr ddatblygu eu prosiectau tuag at gynaliadwyedd.