Baobab Bach

Mae Baobab Bach yn gweithio gyda chymunedau i helpu i leihau gwastraff bwyd a darparu bwyd fforddiadwy. Mae Baobab Bach yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol i greu a chynnal pantrïau cymunedol, gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd, darparu bwyd da a fforddiadwy, a hyrwyddo iechyd a llesiant. Mae Baobab Bach wedi bod wrthi’n datblygu dau brosiect tyfu newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr – sef yng Nghanolfan Gofal Dydd Tŷ Pen y Bont ac yn Rhandiroedd Bronfair, Maesteg. Y bwriad yw tyfu bwyd ar gyfer rhwydwaith lleol y Pantrïau Cymunedol, a gaiff eu rhedeg gan Baobab Bach, er mwyn addysgu a chynorthwyo aelodau’r gymuned i ‘dyfu eu cynnyrch eu hunain’.

Roedd rhai o’r offer a roddwyd i’r sefydliad wedi treulio gan eu bod wedi cael eu defnyddio’n gyson, ac roedd angen cael rhai newydd yn eu lle. Hefyd, roedd angen offer ychwanegol, yn ogystal â dodrefn gardd, er mwyn i’r gwirfoddolwyr allu ymlacio, cymdeithasu a gweithio’n ddiogel.

Ymgeisiodd tîm Baobab Bach am arian grant cyfalaf gan y Tîm Reach. Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, prynodd Baobab Bach yr offer a’r dodrefn angenrheidiol. O fewn dim o dro, defnyddiwyd yr offer gan y gwirfoddolwyr i ddechrau paratoi’r mannau tyfu ar gyfer y tymor plannu. Mae’r dodrefn gardd wedi galluogi’r grŵp i agor ei ddrysau i ychwaneg o wirfoddolwyr yn sgil gwell cyfleusterau a hygyrchedd, a hefyd maent yn golygu bod y lle’n gyfforddus braf i’r gwirfoddolwyr rheolaidd.


Oriel y prosiect