Mental Health Matters

Sefydliad elusennol sy’n cynnig gwasanaethau cymorth hanfodol yn ymwneud ag iechyd meddwl yw Mental Health Matters Wales – sef gwasanaethau fel eirioli, cefnogaeth gan gymheiriaid a gweithgareddau llesiant i grwpiau agored i niwed yn y gymuned leol. Gan gydnabod pa mor bwysig yw creu amgylchedd diogel a chroesawgar, ymgeisiodd Mental Health Matters Wales am arian gan y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn ar gyfer cynorthwyo i adnewyddu a gwella’r cyfleusterau yn Swyddfeydd yr Undeb, Pen-y-bont ar Ogwr. Nod y gwaith adnewyddu oedd sicrhau y byddai’r mannau’n fwy croesawgar, hygyrch a chynhwysol i’r defnyddwyr, y staff, y gwirfoddolwyr a’r partneriaid cymunedol.

Casglodd y sefydliad adborth gwerthfawr gan ddefnyddwyr rheolaidd y gwasanaethau. Pennodd yr adborth hwnnw bedwar maes â blaenoriaeth, sef:

  1. Prynu dodrefn newydd er mwyn cynnig amgylchedd cyfforddus a mwy croesawgar.
  2. Prynu seinyddion Bluetooth cludadwy ar gyfer cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a sesiynau therapi cerdd yn yr hybiau dementia a llesiant.
  3. Paentio y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad, er mwyn adlewyrchu ansawdd y cymorth a ddarperir.
  4. Prynu teclyn pwrpasol ar gyfer symud y bwrdd pŵl er mwyn i’r staff allu ad-drefnu mannau’n ddiogel.

Ar ôl i’r Tîm Reach gymeradwyo’r cais am grant, prynodd Mental Health Matters Wales yr eitemau angenrheidiol a chyflogwyd contractwr i wneud y gwaith paentio. Cwblhawyd y gwaith adnewyddu gan effeithio fawr ddim ar y gwasanaethau, felly bu modd parhau i roi cymorth i’r defnyddwyr. Mae’r gwaith wedi gweddnewid Swyddfeydd yr Undeb, gan droi’r adeilad yn fan mwy dymunol, ymarferol a chynhwysol. Hefyd, mae’r cyfleusterau gwell wedi galluogi Mental Health Matters Wales i agor ei ddrysau i grwpiau cymunedol eraill, megis Parkinson’s UK, gan feithrin cydweithredu ac ymgysylltu ehangach â’r gymuned.


Oriel y prosiect