Cronfa Effaith Balchder Bro – Grantiau Bach
Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn rhaglen ledled Prydain, a’i nod yw darparu buddsoddiad i adfer balchder bro, cefnogi cydlyniant cymunedol, a sbarduno gweithgarwch economaidd lleol trwy welliannau gweladwy, tymor byr, wedi’u harwain gan y gymuned.
Mae’r Grantiau Bach yn cyd-fynd â’r amcanion Cronfa Effaith Balchder Bro canlynol:
- Mannau cymunedol: creu, ehangu, gwella neu adfer cyfleusterau cymunedol presennol a galluogi sefydliadau cymunedol i gymryd rheolaeth neu berchnogaeth o asedau lleol sy’n werthfawr ond sydd wedi’u tanddefnyddio.
- Mannau cyhoeddus: gwella’r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus – mae enghreifftiau o fentrau’n cynnwys mannau gwyrdd neu sgwariau cyhoeddus newydd neu wedi’u gwella, gwella ardaloedd chwarae awyr agored, mannau chwaraeon a hamdden, gosod dodrefn stryd, celf gyhoeddus neu arwyddion.
Pwy sy’n gallu ymgeisio
- Grwpiau cymunedol gyda chyfansoddiad neu sefydliadau gwirfoddol
- Elusennau Cofrestredig
- Cynghorau Tref a Chymuned
- Sefydliadau trydydd sector
- Mentrau Cymdeithasol
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, cysylltwch â reach@bridgend.gov.uk a fydd yn gallu eich cynghori.
Faint allwch chi wneud cais amdano
Mae Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro yn cynnig cyfalaf yn unig, yr isafswm sydd ar gael yw £1,000 a’r uchafswm yw £10,000 (gan gynnwys TAW anadferadwy). Ni all cyfanswm costau’r prosiect fod yn fwy na £25,000.
Rhaid cwblhau pob prosiect llwyddiannus erbyn 28 Chwefror 2027.
Beth y gellir ei ariannu
Gall grant bach Cronfa Effaith Balchder Bro gefnogi prosiectau cyfalaf ar gyfer adferiad sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Gwaith adeiladu / gwelliannau ar raddfa fach gan gynnwys gwelliannau hygyrchedd cymedrol.
- Prynu offer cyfalaf, peiriannau neu asedau eraill.
- Gwaith cyfalaf i wella ardaloedd gwyrdd cymunedol.
- Syniadau prosiect arloesol sy’n gwasanaethu’r gymuned e.e. datrysiadau ynni adnewyddadwy, trechu tlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd.
- Prosiectau a fydd yn lleihau costau cynnal hirdymor y sefydliad cymunedol.
- Gellir cynnwys TAW anadferadwy yn yr hawliadau grant, ar yr amod nad yw eich sefydliad wedi cofrestru ar gyfer TAW.
- Os bydd yn sefydliad yn cofrestru ar gyfer TAW yn ystod amserlen y prosiect cyn yr hawliad terfynol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw’r hawl i roi’r gorau i ariannu’r elfen TAW.
Noder nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a bydd ceisiadau’n cael eu gwerthuso fesul achos.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5.00pm ddydd Gwener 31ain Mawrth 2026.
Lawrlwythiadau
Cronfa Effaith Balchder Bro – Grantiau Bach Nodiadau Canllaw >
Cronfa Effaith Balchder Bro – Grantiau Bach Ffurflen Gais >


