Clwb Pêl-droed Cefn Cribwr
Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Cefn Cribwr ym 1976, ac ers hynny mae wedi esblygu o fod yn dîm pentref gweddol ddi-nod i fod yn rym amlwg ym myd pêl-droed Cymru. Mae gan y Clwb fwy na 200 o chwaraewyr ac mae wedi ymrwymo i feithrin doniau lleol, gan ymgysylltu â’r gymuned a chan hyrwyddo cynhwysiant a llesiant. Sylweddolodd pwyllgor y Clwb fod angen rhoi sylw ar frys i fynedfa’r cae pêl droed. Gan mai lôn sengl a oedd yn arwain at y cae, yn aml byddai tagfeydd yn cyrraedd y briffordd, gan roi diogelwch yn y fantol.

Ym mis Gorffennaf 2025, ymgeisiodd y Clwb am arian gan gynllun y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn ar gyfer cynorthwyo i dalu am drin y fynedfa. Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo gan y Tîm Reach, bu modd i’r pwyllgor drefnu i gontractwr wneud y gwaith.

Cwblhawyd y gwaith ym mis Ionawr 2026, gan effeithio fawr ddim ar y modd y câi’r clwb ei redeg. Mae’r fynedfa letach wedi helpu i leihau problemau traffig, gan greu mynedfa fwy diogel a hygyrch i’r chwaraewyr, y cefnogwyr ac aelodau’r gymuned sy’n elwa ar gyfleusterau’r Clwb.


