Chwaraeon Rest Bay
Clwb pêl-droed sy’n cynnig cyfleoedd i drigolion lleol gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn yr awyr agored – dyna yw Chwaraeon Rest Bay. Mae gan y Clwb oddeutu 400 o aelodau, ac mae pob un ohonynt angen mynediad at gyfleusterau addas drwy gydol y flwyddyn. Yn 2024, aeth y Tîm Reach ati i gynorthwyo Chwaraeon Rest Bay i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun datblygu chwaraeon, gan ganolbwyntio ar wella’r ddarpariaeth ym meysydd chwarae Rest Bay.
Darganfu’r astudiaeth ddichonoldeb fod angen llifoleuadau symudol er mwyn sicrhau y gallai’r safle elwa ar oleuadau da – ar y cae ac oddi arno. Trwy gael llwybrau wedi’u goleuo’n briodol, gellid sicrhau y byddai’r defnyddwyr (yn enwedig cyfranogwyr benywaidd ac ifanc) yn teimlo’n ddiogel wrth deithio’n ôl a blaen o’r cyfleusterau.
- Cynllun goleuadau llawn er mwyn sicrhau goleuadau diogel ac unffurf ar draws y cae.
- Asesu ffactorau amgylcheddol a ffactorau cynllunio, yn cynnwys llygredd golau ac ymgysylltu â chymdogion.
- Opsiynau wedi’u costio ar gyfer ffitiadau a cholofnau goleuadau durol ac ynni-effeithlon.
- Argymhellion ar gyfer gosod, cynnal a chadw, a chynaliadwyedd hirdymor.
Gyda thystiolaeth glir a chefnogaeth gan y gymuned, ymgeisiodd Chwaraeon Rest Bay am Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn ar gyfer cyflawni’r prosiect. Yn sgil y grant cyfalaf, bu modd i’r clwb brynu llifoleuadau symudol, gan sicrhau y gellir defnyddio’r cyfleusterau’n ddiogel trwy fisoedd y gaeaf ac yn ystod nosweithiau tywyllach. Mae’r cyfleusterau gwell yn cynnig mwy o gyfle i hyfforddi, maent yn gwella diogelwch ac maent yn rhoi mwy o hyblygrwydd i dimau a grwpiau cymunedol. Dengys y prosiect sut y gall arian Cymunedau Gwydn gynorthwyo sefydliadau llawr gwlad i gynllunio’n effeithiol, adeiladu gwydnwch hirdymor ac esgor ar welliannau ystyrlon a chynaliadwy i bobl leol.

