LICC – Cwrs Dŵr Coytrahen

Coytrahen WatercourseMae cwrs dŵr coediog Coytrahen yn ardal boblogaidd ymhlith cerddwyr, aelodau’r gymuned, teuluoedd a phobl sy’n mynd â’u cŵn am dro, gan ddenu ymwelwyr i Goytrahen. Mae’r cwrs dŵr yn ardal werdd hardd sydd wedi hen ennill ei phlwyf, lle ceir coed ynn, derw, ffawydd a masarn, ynghyd â chynefin sydd wedi hen sefydlu. Mae’r trigolion yn ymfalchïo mewn cynnal a chadw’r cwrs dŵr, a dônt ynghyd i ofalu amdano’n wirfoddol.

Nid oedd y bont bren a ddefnyddid i gyrraedd y cwrs dŵr yn addas ar gyfer mynediad i bobl anabl; ac er gwaethaf ymdrechion y cyngor cymuned i gynnal a chadw’r bont, yn y diwedd aeth â’i phen iddi. Yr unig ddewis a oedd gan y cyngor cymuned oedd cau’r cwrs dŵr dros dro, oherwydd pryderon yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd. Nod y cyngor cymuned oedd sicrhau bod yr ardal yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gynaliadwy trwy osod pont newydd, trwy archwilio’r coed a thrwy wneud gwaith cynnal a chadw ar y coed.

Ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llangynwyd Isaf am arian gan gynllun y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn er mwyn gallu mynd i’r afael â’r cynlluniau hyn. Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, bu modd i’r cyngor cymuned gyflogi arbenigwr coed i wneud y gwaith adfer, ynghyd â chael gwared â choed peryglus ac ailddefnyddio’r boncyff a dorrwyd i greu pentyrrau cynefin i annog bioamrywiaeth. Erbyn hyn, mae’r bont a’r llwybr yn hygyrch, gan gynnig llwybr diogel i gerddwyr yn ddigon pell oddi wrth y briffordd.