Llais y Goedwig

Mae yn falch o fod yn llais dros goetiroedd cymunedol yng Nghymru. Rhwydwaith llawr gwlad yw Llais y Goedwig, ac mae’n cynrychioli ac yn cynorthwyo ymarferwyr a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae Llais y Goedwig wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i reoli Parc Bedford – sef man gwyrdd oddeutu 18 hectar o faint, a chartref i adfeilion Gwaith Haearn Cefn Cribwr sy’n dyddio i’r ddeunawfed ganrif. Mae Llais y Goedwig yn cynnwys trigolion a grwpiau ar y safle ac yn cynnal sesiynau wythnosol i wirfoddolwyr, gan wella sgiliau a chynnal gweithgareddau llesiant amgylcheddol yn y Warchodfa Natur Leol. Mae’r mynychwyr yn cynnwys gwirfoddolwyr cadwraeth lleol, grwpiau o Mental Health Matters Wales a myfyrwyr o Goleg Penybont.

Mae Llais y Goedwig yn bwriadu cydweithio gyda The Gwyrdd (grŵp treftadaeth Cefn Cribwr) i agor adfeilion y Gwaith Haearn i’r cyhoedd. Er mwyn hwyluso hyn, bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo trwy gynnal a chadw’r llwybrau sy’n arwain trwy’r adfeilion. Hefyd, manteisiodd y tîm ar y cyfle i reoli’r man fel ardal blodau gwyllt, gan annog bioamrywiaeth a chan ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Ymgeisiodd Llais y Goedwig am gymorth gan gynllun y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn, gan restru’r offer y byddai eu hangen i helpu aelodau’r tîm i gyrraedd eu nod. Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, prynodd y grŵp yr offer a bu modd clirio a chynnal a chadw’r llwybrau, gan sicrhau bod y ffordd yn ddiogel ac yn hygyrch i’r gwirfoddolwyr a’r ymwelwyr fel ei gilydd. Trwy alluogi aelodau’r cyhoedd i fynd i mewn i’r Gwaith Haearn, gallant gael cipolwg unigryw ar orffennol diwydiannol y rhanbarth, gan sicrhau ei fod yn lleoliad hollbwysig ar gyfer addysg a thwristiaeth treftadaeth.