Safle Grŵp Allgymorth Corneli

Gwnaeth Grŵp Allgymorth Corneli gais i Gronfa Dichonoldeb Cymunedol Reach ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i greu cyfeiriad clir ar ffurf strategaeth 5 mlynedd ar gyfer y grŵp, yn seiliedig ar wybodaeth gan y pwyllgor, aelodau a defnyddwyr gwasanaeth.  Eu prif flaenoriaeth yw sicrhau safle addas i redeg eu Gwasanaethau cyfrinachol ohono.

Sefydlwyd Grŵp Allgymorth Corneli ym mis Medi 2022 i helpu pobl dros 18 oed sy’n dioddef unrhyw fath o heriau iechyd meddwl, gan gynnwys dibyniaeth, profedigaeth ac unrhyw salwch meddwl sy’n cael effaith ar eu bywyd o ddydd i ddydd.  Mae ganddynt wirfoddolwyr medrus sy’n helpu pobl wrth iddynt aros am y gefnogaeth briodol gan yr asiantaethau perthnasol ac ar restrau ysbytai.

Mae Grŵp Allgymorth Corneli yn ganolfan galw heibio wedi’i lleoli yn y Neuadd Gyhoeddus yng Ngogledd Corneli (drws nesaf i Ganolfan Gymunedol Corneli).  Mae’n agor ar fore Sadwrn 11.30am-1.30pm, gan roi hafan ddiogel i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd.  Mae’r gwirfoddolwyr yno ar gyfer sgwrs breifat, neu gall ymwelwyr rannu eu profiadau gydag eraill.

Mae’r Grŵp yn cynnig hyfforddiant am ddim (e.e. diogelu, hylendid bwyd), dosbarth myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â thalebau banc bwyd – mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg!    Mae’r Grŵp yn trefnu pryd o fwyd yn yr ardal leol unwaith y mis, er mwyn galluogi defnyddwyr eu Gwasanaeth i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd.

Roedd Grŵp Allgymorth Corneli yn llwyddiannus yn eu cais ac ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda thîm Reach i gomisiynu ymgynghorydd i ymgymryd â’r astudiaeth bwysig hon.   Bydd yr astudiaeth yn cynnwys adborth gan ddefnyddwyr presennol y Gwasanaeth, trwy gyfres o gyfweliadau un i un.

Grŵp Allgymorth Corneli


Oriel y prosiect