Adnewyddu Eglwys St Ceinwyr

Gwnaeth Eglwys St Ceinwyr yn Llangeinwyr gais i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol drwy’r tîm Reach, am ymchwil ac astudiaeth i ystyried dichonoldeb agor i’r cyhoedd, gan gynnwys arolwg o gyflwr yr adeilad ac archwiliad hygyrchedd.

Mae eglwys St Ceinwyr yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif ar safle crefyddol Celtaidd o’r bumed ganrif.   Gwnaed y gwaith adnewyddu sylweddol diwethaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.   Mae’r grŵp yn credu y dylai’r gymuned leol, pobl Pen-y-bont ar Ogwr a’r rhai sy’n byw yng Nghymru neu’n ymweld â Chymru allu dod i, mwynhau ac elwa o’r lle hardd, hanesyddol a phwysig hwn.

Mae’r Eglwys yn safle unigryw o bwys hanesyddol yn lleol ac yn genedlaethol, gan mai dyma, bron yn sicr, safle meudwyaeth Santes Ceinwyr, un o ferched y Brenin Brychan a chwaer Santes Dwynwen, a’r man lle bu farw a lle y’i claddwyd. Mae ffynnon gerllaw, ac yn ôl y chwedl, daeth y ffynnon i’r golwg adeg ei marwolaeth gan lifo â dyfroedd iacháu.

Ar hyn o bryd mae’r grŵp o wirfoddolwyr yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallant ei gynnig i’r cyhoedd. Nid oes ganddynt fynediad at ddŵr ar y safle ar hyn o bryd, dim toiledau, sinc na thapiau.  Mae angen ystyried hefyd sut i greu amgylchedd cynhesach, mwy cyfforddus a gwneud y gofod yn fwy defnyddiol ar gyfer ymweliadau rheolaidd gan grwpiau lleol ac ymwelwyr.   Mae angen adnewyddu tŵr yr Eglwys hefyd a hoffai’r grŵp archwilio’r posibilrwydd o agor hwn i’r cyhoedd.   Felly mae’r gwirfoddolwyr yn awyddus i sicrhau bod St Ceinwyr yn parhau i fod ar gael ac yn hygyrch i bawb – y gymuned a’r rhai sy’n ymweld am ba reswm bynnag – fel ased hanesyddol mewn lleoliad hardd.

Eglwys St Ceinwyr

Cliciwch yma i weld/lawrlwytho poster Galw Heibio 15 Rhagfyr

Nod ein prosiect yw sefydlu beth hoffai cymunedau lleol ei weld gan yr eglwys yn y dyfodol, lle mae bylchau a chyfleoedd yn y ddarpariaeth gymunedol, ac opsiynau datblygu posibl.  Bydd yr adroddiad yn nodi opsiynau ar gyfer adnewyddu yn y dyfodol, gyda’r nod yn y pen draw o gadw’r adeilad rhestredig Gradd II* mewn defnydd. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio i wneud cais am gyllid pan fydd ar gael.

Ar 15 Rhagfyr byddwn yng Nghanolfan Richard Price o 11am tan 3pm gyda stondin yn ystod y Ffair Nadolig lle gallwch ddod i siarad â thîm y prosiect a Chyfeillion Sant Ceinwyr, darganfod mwy am yr eglwys a’n cynlluniau, rhannu eich syniadau, gofyn cwestiynau, a helpu i lunio dyfodol y prosiect hwn.

Os na allwch ddod i’n digwyddiad, gallwch hefyd roi adborth ar y prosiect trwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn rhwng 4 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr.

Yn y cyfamser, gallwch ddysgu rhagor am y prosiect trwy fynd i wefan REACH.

Os oes gennych unrhyw syniadau neu gwestiynau penodol ymlaen llaw, mae croeso i chi eu rhannu gyda ni trwy e-bostio.

Gallwch weld/lawrlwytho’r Byrddau Arddangos yma.


Oriel y prosiect