Astudiaeth Ddichonoldeb Tŷ Carnegie
Mae Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cefnogaeth gan dîm Reach i benodi ymgynghorydd arbenigol i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i benderfynu sut i wneud y defnydd gorau o’r adeilad er budd y gymuned leol, gan gynnwys cynnig gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth.
Yn 2013, dechreuodd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr gynllunio i adleoli Siambr y Cyngor i hen adeilad llyfrgell gyhoeddus yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Llwyddodd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i gaffael rhydd-ddaliad adeilad Tŷ Carnegie yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr trwy broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol CBSP yn 2014. Mae Tŷ Carnegie yn hen lyfrgell gyhoeddus ac yn adeilad rhestredig Gradd II. Roedd y trefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr
yn golygu bod adeilad dinesig ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio unwaith eto. Daeth adeilad hanesyddol yn berthnasol eto drwy ddod yn ganolbwynt ar gyfer y celfyddydau a’r cyfryngau creadigol yn yr ardal.
Gadawodd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr y safle ar 4ydd Ebrill 2024, ac mae’n awyddus i archwilio opsiynau ar gyfer defnydd yr adeilad yn y dyfodol er budd y cyhoedd. Cyn y pandemig, roedd cryn ddefnydd o lawr gwaelod yr adeilad gyda nifer o wahanol raglenni creadigol wedi’u hariannu gan grantiau gydag arddangosfeydd, sioeau, gweithdai a sesiynau hyfforddi. Mae’r rhaglenni hyn a’r cynulleidfaoedd cysylltiedig wedi lleihau yn dilyn y pandemig.
Nawr bod y llawr uchaf hefyd ar gael at ddefnydd y cyhoedd, mae angen astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu sut y gellir defnyddio’r adeilad yn y ffordd orau o fewn cyfyngiadau’r defnydd cymunedol y cytunwyd arno, gan ystyried Uwchgynllun Canol Tref CBSP ar gyfer yr ardal hon. Bydd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys ymgynghori â’r gymuned ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau a defnyddwyr Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr