Caeau Chwarae Bryntirion

Mae tîm Reach yn cynorthwyo Cyngor Cymuned Trelales i ddrafftio Cynllun Gweithredu a fydd yn cynnwys canlyniadau ymgynghoriad cymunedol ffurfiol a chynlluniau dylunio ar gyfer caeau chwarae Bryntirion.

Mae Cyngor Cymuned Trelales wrthi’n cynnal proses Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer caeau Chwarae Bryntirion.  Maen nhw’n dymuno ei ddatblygu’n gyfleuster sy’n canolbwyntio ar y gymuned, a fydd yn gweddu i bob oedran, gan bod yr ardal ar hyn o bryd yn ardal fawr, heb ei diffinio, gyda rhywfaint o offer chwarae ar gyfer plant yn y pen gogleddol.

Mae’r grŵp wedi cyrraedd y cam lle mae darluniau cysyniad cychwynnol (dangosol) wedi cael eu paratoi gydag ymgynghorydd, sydd wedi cynnwys elfennau megis parc sglefrio, amffitheatr fach, trac cerdded, lle tyfu, pad sblashio ac ardaloedd plannu strategol ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn ogystal â mesurau lleihau sŵn a gwelliannau gweledol.

Cyngor Cymuned Trelales


Oriel y prosiect