Clwb Criced Maesteg

Lleolir Clwb Criced Maesteg yng nghanol Maesteg ac mae wedi hen ennill ei blwyf yn yr ardal. Mae gan y Clwb 12 o dimau, ac mae’n anelu at feithrin doniau lleol, hyrwyddo iechyd a llesiant ac ymhél â’r gymuned.

Agorwyd tŷ’r clwb yn swyddogol ym 1996 ac nid yw toiledau’r dynion wedi newid rhyw lawer ers hynny. Sylweddolodd y pwyllgor fod angen atgyweirio a moderneiddio’r toiledau er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau’n ddiogel, yn hylan ac yn hygyrch.

Ym mis Gorffennaf 2025, ymgeisiodd y Clwb am arian gan gynllun y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn er mwyn cynorthwyo i ariannu’r gwaith adnewyddu. Ar ôl i’r grant gael ei gymeradwyo gan y Tîm Reach, bu modd i’r pwyllgor drefnu i gontractwr fynd i’r afael â’r prosiect.

Cwblhawyd y gwaith ym mis Rhagfyr 2025, gan effeithio fawr ddim ar y modd y câi’r clwb ei redeg. Mae’r cyfleusterau gwell wedi cael effaith uniongyrchol ar y chwaraewyr, yr aelodau a’r cefnogwyr, ac erbyn hyn gellir cynnig tŷ’r clwb at ddefnydd y gymuned. Mae’r cyfleusterau croesawgar ac addas i’r diben yn annog ychwaneg o drigolion a grwpiau lleol i ymhél â’r clwb, ac mae yna botensial i wasanaethu cynulleidfa ehangach fyth mewn hwb cymunedol diogel, cynhwysol a chymwys.


Oriel y prosiect