Contact Zone i’r Teulu
Mae’r Contact Zone yn gweithio gyda thîm Reach i ymchwilio i’r posibilrwydd o sicrhau adeilad i’r sefydliad, i gynnal asesiad ariannol, i lunio cynllun gweithredu pum mlynedd ac i gynnal asesiad o weithrediadau tebyg mewn meysydd eraill mewn perthynas â’r gwasanaethau a gynigir.
Mae’r Contact Zone yn rhoi cyswllt teuluol gyda chymorth i blant teuluoedd sydd wedi gwahanu gyda’r aelodau hynny nad ydynt bellach yn eu gweld neu’n byw gyda nhw. Wrth i’r galw am wasanaethau ychwanegol gynyddu, gan gynnwys Ymweliadau dan oruchwyliaeth, Cwnsela, Cyfryngu, Cyrsiau rhianta ac iechyd emosiynol a Chymorth Iechyd Meddwl, mae yna alw hefyd i’r rhain ddigwydd mewn cyfleuster sydd eisoes yn gyfarwydd i’r teuluoedd er mwyn lleddfu’r pwysau o esbonio eu straeon drosodd a throsodd i ddieithriaid. Mae’r sefydliad yn dymuno darparu hyn i’w holl gleientiaid a’r gymuned ehangach trwy ddatblygu dull mwy cyfannol. Yn ddelfrydol, byddent yn dymuno caffael eu heiddo eu hunain, lle gallant gynyddu eu horiau agor i weddu i ofynion cleientiaid.
Mae’r galw am y ganolfan wedi cynyddu ers Covid, ac yn ystod y 18 mis diwethaf, bu cynnydd mewn atgyfeiriadau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal â Chwnselydd sy’n gweithio’n wirfoddol i’r sefydliad, mae’r elusen yn gallu cyfeirio unigolion at asiantaethau eraill ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, achosion cam-drin domestig a dosbarthiadau rhianta. Mae’r Contact Zone hefyd yn anelu at ehangu i gynnig cyngor cyfreithiol a chwnsela mewn profedigaeth.