Corneli Campfa Awyr Agored

Ym mis Chwefror 2024, ymgeisiodd Cyngor Cymuned Corneli am arian gan y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol i gynorthwyo gydag ymgynghoriad cymunedol ac i archwilio opsiynau posibl ar gyfer Parc Cymunedol Corneli. Roedd y Cyngor Cymuned yn gobeithio defnyddio’r man gwyrdd presennol i ddarparu cyfleusterau a fyddai’n galluogi oedolion ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau i leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y parc.

Amcan yr ymarfer oedd profi syniadau’r Cyngor Cymuned ar gyfer gwella’r parc gyda rhanddeiliaid lleol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddarparu cyfleusterau i bobl ifanc. Gyda Chyngor Cymuned Corneli, aeth y Tîm Reach ati i ddefnyddio arbenigedd Land Use Consultants Ltd i sicrhau dull cynhwysfawr a chynhwysol:

  • Cydweithio gyda Grŵp Llywio’r prosiect i fireinio nodau’r prosiect
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid, trigolion ac aelodau’r gymuned
  • Casglu a dadansoddi ymatebion
  • Llunio cynllun bras a’i gyflwyno gerbron y Grŵp Llywio ac aelodau’r gymuned/rhanddeiliaid ehangach
  • Llunio adroddiad dichonoldeb yn crynhoi’r ymgysylltu a’r cynigion bras, gan nodi’r camau nesaf.

Casglodd y broses ymgynghori sylwadau gwerthfawr gan drigolion a rhanddeiliaid, a chafwyd ymateb cadarnhaol i’r cynnig i osod offer ffitrwydd awyr agored.

Ym mis Mehefin 2025, ymgeisiodd Cyngor Cymuned Corneli am arian gan y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn ar gyfer cynorthwyo i roi’r cynlluniau ar waith. Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, cyflogodd y Cyngor gontractwr i fynd i’r afael â’r gwaith.

Cynhaliwyd achlysur lansio, lle agorwyd y gampfa awyr agored yn swyddogol. Hefyd, dangosodd hyfforddwyr ffitrwydd sut i ddefnyddio’r offer. Ers agor y gampfa, mae trigolion o bob oed a gallu wedi defnyddio’r offer, gan gynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu iechyd a llesiant y bobl sy’n byw yn yr ardal.