Cwmni Buddiannau Cymunedol Billys Gym and Wellness Centre

Gwnaeth Billys Gym and Wellness Centre gais i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol am gymorth i ddelweddu datblygiad cyfleuster campfa newydd ym Maesteg, a fydd yn addasu adeilad segur yn yr ardal at ddibenion gwahanol.

Mae Billys Gym and Wellness Centre yn cael ei redeg fel campfa sefydledig, gydag aelodaeth â thâl wedi bodoli ers dros 46 mlynedd ac mae wedi cofrestru ar gyfer statws Cwmni Buddiannau Cymunedol yn ddiweddar.

Mae’r cyfleuster hefyd yn darparu ystod o weithgareddau llesiant rhad ac am ddim, yn enwedig ar gyfer anabledd, fel dosbarthiadau ymarfer corff i rieni a phlant, bocsio i blant ag anableddau a chynllun atgyfeirio ymarfer corff gan feddyg teulu.  Ochr yn ochr â’r rhaglenni llesiant am ddim, mae’r sefydliad yn darparu pryd o fwyd am ddim i blant fynd adref gyda nhw.

Mae eu lleoliad presennol wedi bod yn gartref i’r gampfa ers blynyddoedd lawer, ond mae twf y sefydliad yn golygu nad yw bellach yn addas.   Yn ogystal â hyn, mae angen adnewyddu’r cyfleuster ac mae’r sefydliad wedi penderfynu y byddai’n fwy priodol adleoli’r gampfa ar hyn o bryd, gyda chymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.   Fel rhan o’r cais hwn, mae cynllun busnes yn cael ei ddatblygu gyda Chymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu, a fydd yn cynnwys y delweddu sy’n cael ei ddatblygu gyda thîm Reach.   Bydd y delweddu yn rhoi golwg o’r adeilad fel y bydd ar ôl ei gwblhau.  Ar gyfer hyn, mae angen gwasanaeth pensaer, er mwyn cyflwyno cynrychiolaeth o’r adeilad sy’n strwythurol gywir, gan ddangos y cynllun disgwyliedig a’r defnydd a wneir o’r gwahanol ardaloedd.

Yna gellir defnyddio’r delweddu i hyrwyddo’r adeilad i randdeiliaid, defnyddwyr y cyfleuster, darpar denantiaid a’r cyhoedd.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Billy’s Gym and Wellness Centre

DIWEDDARIAD: Mae’r delweddau wedi’u cwblhau erbyn hyn ac mae’r rhai isod yn dangos pedwar cynrychioliad rhagorol o sut allai’r cyfleuster edrych, pan fydd yn barod.  Mae’r delweddau hyn yn rhai cywir, wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiadur, yn seiliedig ar fesuriadau a darluniau manwl gywir o’r adeilad… maen nhw’n edrych yn wych!

Fe’u cynhyrchwyd ar ran tîm Reach a Billys Gym and Wellness Centre gan y cwmni delweddu proffesiynol Joanna James Ltd, gyda mewnbwn technegol arbenigol gan Usk Land Survey a Griffiths Design Ltd.


Oriel y prosiect