Cyfleoedd am Gynlluniau Ynni Adnewyddol Cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr Gwledig

Cynhaliodd Cymru Gynaliadwy, sefydliad trydydd sector, ddarlith gyhoeddus yn gynnar yn 2017 er mwyn dechrau cymell rhanddeiliaid a chymunedau lleol i weithredu ym maes ynni adnewyddadwy. Yna, trefnodd Reach weithdy i edrych ar bethau ymarferol y gellir eu gwneud. O ganlyniad, chomisiynodd y grwp astudiaeth ar y cyd i gael gwell dirnadaeth or cyfleoedd a dichonolrwydd unrhyw gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol.

Canfur prosiect gyfatebiaeth rhwng y potensial i greu ynni adnewyddadwy a rhywun i brynur ynni hwnnw am bris cytunedig gan rhoir elw a gynhyrchir mewn cronfa. Roedd yn cynnwys Gwynt, Haul, Dr, Gwres Pher Cyfunedig, Biomas, Pympiau Gwres, a Threulio Anaerobig. Crwyd rhestr fer o brosiectau a bydd y camau nesaf yn cynnwys gweithion agos gyda chymunedau yn yr ardaloedd hyn i ddechrau ymgyrchoedd cymunedol i sefydlu eu cynlluniau.

Er mwyn ir cynlluniau hynny weithio, argymhellodd yr astudiaeth greu Cymdeithas Budd Cymunedol. Byddair Gymdeithas yn goruchwylior cynlluniau lleol ac yn eu cefnogi i wneud ceisiadau ar gyfer cyllid cyfalaf ac ymdrin phethau megis mentrau cyfranddaliadau cymunedol. Maer grwp llywio yn datblygu rhwydwaith ynni adnewyddadwy cymunedol i ddod phobl or un anian at ei gilydd a cyflwyinr ceisiadau am gyllid hefyd i gefnogi astudiaeth bellach o ddichonolrwydd y safleoedd ac ymgysylltu rhanddeiliaid.