Cyngor Cymuned Bracla

Mae Canolfan Gymunedol Bracla yn hwb i’r holl gymuned ac fe’i defnyddir gan amrywiaeth eang o grwpiau, fel Grŵp Corawl Bracla, Brackla Seniors, grwpiau gwnïo a chrefftau, y Clwb Ieuenctid, grwpiau ffitrwydd, a meithrinfa leol.

Yn 2024, cymerodd Cyngor Cymuned Bracla ran ym Mhrosiect Effeithlonrwydd Ynni Pen-y-bont ar Ogwr, a ariannwyd gan Cymunedau Gwydn. Nod y prosiect oedd cynorthwyo grwpiau cymunedol i esgor ar newid sylweddol yn y modd roeddynt yn defnyddio ynni, gan geisio dilyn llwybr mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Fel rhan o’r prosiect, cynhaliwyd asesiadau effeithlonrwydd ynni ac archwiliad ynni a lluniwyd cynllun gweithredu manwl ar gyfer y Ganolfan Gymunedol. Darganfu’r adroddiad y gellid arbed mwy na £5,000 mewn trydan a nwy pe bai gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn cael eu cyflwyno a phe bai ynni adnewyddadwy’n cael ei ddefnyddio, a rhestrwyd rhai camau y gallai’r Cyngor Cymuned eu cymryd i helpu i arbed yr arian hwnnw.

Ar ôl arolygu cyflwr ffenestri’r ganolfan, gwelwyd eu bod yn dechrau dirywio – sef rhywbeth a oedd yn cyfrannu at golli gwres. Ym mis Gorffennaf 2025, ymgeisiodd y Cyngor am grant cyfalaf gan y tîm Cymunedau Gwydn er mwyn helpu i dalu am adnewyddu’r ffenestri. Nod y buddsoddiad hwn oedd lleihau faint o wres a oedd yn dianc o’r adeilad, gwella effeithlonrwydd ynni yn gyffredinol, a gwneud yr adeilad yn fwy cysurus i’r llu o grwpiau sy’n ei ddefnyddio’n rheolaidd.

Diolch i’r arian a gafwyd, bu modd i Ganolfan Gymunedol Bracla osod ffenestri ynni-effeithlon newydd, gan wella perfformiad thermol yr adeilad yn fawr a chan helpu i sicrhau sylfaen gadarnach i’r ganolfan ar gyfer y dyfodol.


Oriel y prosiect