Cyngor Cymuned Newcastle Uchaf – Cae’r Ffesant

Ym mis Mawrth 2024, ymgeisiodd Cyngor Cymuned Newcastle Uchaf am arian gan y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol i gynorthwyo gydag ymgynghoriad cymunedol ac i archwilio opsiynau posibl ar gyfer Cae’r Ffesant ym Mhen-y-Fai, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r man gwyrdd hwn yn ardal hamdden hollbwysig sy’n hyrwyddo llesiant cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Er mwyn cyflawni’r prosiect hwn, gweithiodd y Tîm Reach mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Newcastle Uchaf i gyflogi arbenigedd proffesiynol gogyfer sicrhau proses gadarn a chynhwysol:

  • Comisiynwyd Richard Newton Consulting Ltd i gynnal ymgynghoriad cymunedol a datblygu arfarniad opsiynau ar gyfer gwella Cae’r Ffesant.
  • Cynhaliodd Direct Access Ltd archwiliad mynediad, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer gwella hygyrchedd i holl aelodau’r gymuned.

Casglodd y broses ymgynghori sylwadau gwerthfawr gan drigolion a rhanddeiliaid. Pennodd y canlyniadau dair blaenoriaeth hollbwysig ar gyfer cyflwyno gwelliannau, sef:

  1. Gosod goleuadau er mwyn gwella diogelwch ac ymestyn defnyddioldeb y cae.
  2. Gosod meinciau picnic er mwyn annog cynulliadau a digwyddiadau cymunedol.
  3. Gosod clwydi hygyrch er mwyn sicrhau cynhwysiant i holl aelodau’r gymuned.

Yn dilyn yr ymgynghoriad a’r arfarniad opsiynau, llwyddodd Cyngor Cymuned Newcastle Uchaf i gael £10,000 gan y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn, ynghyd â £7,651 gan y Grant Cyfalaf Cyngor Cymuned. Cyfrannodd yr arian hwn at roi’r gwelliannau ar waith, ynghyd â chyfleusterau ychwanegol yn cynnwys safle llyfrau, gwesty chwilod a blychau adar. Mae’r gwaith hwn yn sicrhau y bydd Cae’r Ffesant yn parhau i fod yn fan hamdden cynaliadwy a chynhwysol yn y dyfodol.

https://www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/cyllid-yn-dod-a-bywyd-newydd-i-ardal-gymunedol-boblogaidd/


Oriel y prosiect