Cyngor Tref Pencoed – Gardd Goffa
Mae Cyngor Tref Pencoed wedi ymrwymo i wella mannau cyhoeddus sy’n ategu llesiant, cynhwysiant a chysylltiad cymunedol. Gan gydnabod potensial y man gwyrdd bach gyferbyn â swyddfeydd y Cyngor ar Heol Llangrallo, dechreuodd y Cyngor Tref ddatblygu’r safle er mwyn ei droi’n ardd goffa hygyrch, gan gynnig rhywle tawel i fyfyrio, cofio a mwynhau. Cafodd Cyngor Tref Pencoed arian gan y cynllun Cymunedau Gwydn i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb, a oedd yn cynnwys cynnal digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb a datblygu nifer o opsiynau gwahanol. Dangosodd yr adborth fod y gymuned yn cefnogi’r syniad o droi’r man yn ardd goffa, gyda phwyslais arbennig ar hygyrchedd, mannau eistedd, plannu a chyfleoedd i arddangos ysgythriadau coffa.
Mae’r prosiect yn cynnwys sawl elfen hollbwysig, sef:
- Gwaith tirlunio a thrin llwybrau er mwyn creu llwybr cwbl hygyrch trwy’r ardd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, trigolion hŷn a theuluoedd.
- Gosod meinciau er mwyn annog pobl i orffwys, myfyrio a threulio mwy o amser yn yr ardd.
- Nodweddion coffa, yn cynnwys cerrig neu blaciau ysgythredig, er mwyn i’r trigolion allu cofio’u hanwyliaid a phobl uchel eu parch yn y gymuned.
- Cynlluniau plannu coed a phlanhigion er mwyn creu amgylchedd tawel a gwyrdd sy’n cynnal bioamrywiaeth a llesiant.
- Clwydi a pholion fflagiau newydd, gan wella hygyrchedd a diogelwch.
Yna, ymgeisiodd Cyngor Tref Pencoed am Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn ar gyfer cynorthwyo i gyflawni’r prosiect. Ar ôl i’r grant cyfalaf gael ei gymeradwyo, penododd y Cyngor Tref gontractwyr lleol i wneud y gwaith tirlunio ac i osod y meinciau ac ati. Aethpwyd i’r afael â’r gwaith fesul cam ar y tro er mwyn sicrhau mynediad diogel o amgylch y safle drwy gydol y cyfnod. Pa bryd bynnag y bu modd, defnyddiwyd cyflenwyr lleol, gan gefnogi’r economi leol tra’n cyflwyno gwelliannau o’r radd flaenaf.
Mae’r ardd goffa orffenedig yn dangos bod modd troi gwaith dichonoldeb a ariannwyd yn fuddsoddiad cyfalaf a arweinir gan y gymuned. Bellach, mae’r safle ar ei newydd wedd yn cynnig amgylchedd cynhwysol, deniadol a thawel sy’n arddangos dull cynaliadwy o adfywio’r gymuned a defnydd hirdymor o fan cyhoeddus ym Mhencoed.

