Cynllun datblygu ar gyfer cyfleuster chwaraeon pob tywydd yng Nghwmogwr
Sefydlwyd Grŵp Datblygu Chwaraeon sy’n cynnwys grwpiau chwaraeon lleol a rhanddeiliaid yng Nghwmogwr i ystyried y potensial o greu maes pob tywydd yn y cwm. Cysylltodd y grŵp â Reach am gyllid i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i weld lle’r oedd y safle mwyaf addas ar gyfer arwyneb aml-chwaraeon pob tywydd gyda ystafelloedd newid, yn seiliedig ar bum safle a nodwyd ganddynt eisoes.
Cynhaliodd y sefydliad a benodwyd asesiadau safle ac ymgynghori â’r gymuned leol, rhanddeiliaid a’r Grŵp Datblygu Chwaraeon a golygodd hyn bod y pum safle wedi mynd yn rhestr fer o dri i’w cynnwys yn yr astudiaeth ddichonoldeb.
Ystyriwyd adborth ymgynghori, cynhyrchu incwm posibl, mynediad da, lleoliad, cysylltiadau trafnidiaeth da etc ar gyfer pob safle a arweiniodd at y Grŵp Llywio yn cytuno ar un safle datblygu – safle sy’n cael ei adnabod yn lleol fel y Planka. Roedd safle Planka yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd, cerdded a beicio da; gyda thai’n edrych drosto, a fyddai’n helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol; yn ddigon mawr i gadw’r caeau rygbi a phêl-droed presennol a gosod ardal pob tywydd wedi’i ffensio hefyd; roedd y safle eisoes yn cael ei ddefnyddio’n dda ac yn adnabyddus o fewn y cwm; roedd eisoes yn cynnwys cyfleusterau newid oedd angen eu gwella, a olygai bod cyflenwadau pŵer a dŵr eisoes ar y safle; a’r potensial i ddarparu cyfleusterau cymunedol ychwanegol.
Bu’r astudiaeth yn edrych ar y safle yn ei gyfanrwydd gan ddefnyddio strwythurau a chyfleusterau presennol i greu safle y gallai’r gymuned gyfan a phobl o bob gallu ei ddefnyddio. Roedd yr astudiaeth derfynol yn cynnig – llwybr beicio a cherdded o amgylch y safle cyfan gyda goleuadau solar, ardal chwarae naturiol; ardal o wlyptir ar gyfer dŵr ffo o ddraeniad y cae pob tywydd a’r caeau presennol; ardal o flodau gwyllt naturiol; llifoleuadau i’r caeau pêl-droed, rygbi a phob tywydd; ymestyn y man parcio bach presennol i ddarparu ar gyfer y defnydd ychwanegol; uwchraddio’r cyfleusterau newid presennol; darparu man picnic/eistedd. Bydd y cyfleuster cyfan yn mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi timau pêl-droed a rygbi lleol, yn denu timau o ardaloedd eraill ac yn cynnig lle i bob math o weithgareddau awyr agored ac amgylcheddol i bobl o bob oed a gallu.