Cynllun Gweithredu Cyngor Tref Maesteg
Mae Cyngor Tref Maesteg yn gweithio gyda Thîm Reach a Grasshopper Communications i gynnal ymgynghoriad helaeth gyda thrigolion lleol i amlinellu blaenoriaethau lleol a datblygu cynllun gweithredu, a fydd yn darparu cyfeiriad strategol i’r Cyngor dros y 5 – 10 mlynedd nesaf.
Comisiynwyd arbenigwyr, Grasshopper Communications, gan dîm Reach i ymgysylltu i ddechrau gyda’r 17 Cynghorydd Tref a’r Clercod i drafod eu cynlluniau presennol a phenderfynu beth yr hoffent ei gyflawni ar gyfer eu cymuned.
Bydd yr ymgynghoriad a’r cynllun gweithredu hefyd yn rhoi cyfle i roi cyhoeddusrwydd i waith Cyngor y Dref, i bwysleisio pa elfennau o wasanaethau cyhoeddus y maent yn eu rheoli a pha rai nad ydynt yn eu rheoli ac i dynnu sylw at beth maen nhw wedi ei gyflawni. Bydd yr ymgynghorydd hefyd yn nodi pa grwpiau cymunedol lleol (a busnesau) allai fod yn addas ar gyfer gweithio mewn partneriaeth i wneud gwell defnydd o adnoddau.
Bydd y cynllun gweithredu yn nodi argymhellion i’r Cyngor Tref fwrw ymlaen â nhw. Bydd wedi ei seilio ar wybodaeth o ymgynghoriad cymunedol helaeth i ddatblygu camau gweithredu, prisio’r argymhellion, nodi ffynonellau cyllid posibl a pharatoi amserlen realistig ar gyfer eu cyflawni.