Gardd Goffa
Mae tîm Reach yn gweithio gyda Chyngor Tref Pencoed i ddarparu dyluniadau a chynlluniau gwella hygyrchedd ar gyfer gardd fach gyferbyn ag Eglwys Salem, sy’n ardal a ddefnyddir gan y gymuned leol ar gyfer myfyrio a gosod cofebion.
Mae’r ardd fechan gyferbyn â Chapel Salem, Heol Llangrallo, Pencoed yn ardd fach sy’n cynnwys seddau a gwelyau blodau, sy’n eiddo i Gyngor y Dref ac sydd ar gael i bobl Pencoed ei defnyddio. Yn ddiweddar, mae’r gymuned leol wedi dangos diddordeb mewn gwneud hwn yn hafan i gofio am anwyliaid a fu farw mewn rhyfeloedd a digwyddiadau eraill, lle gall pobl eistedd a myfyrio.
Bydd yr astudiaeth hon yn ystyried awgrymiadau ar gyfer gwell mynediad, rheoli coed a phlannu rhywogaethau planhigion, ymgynghori â grwpiau defnyddwyr ac yn darparu dyluniadau gwell a chyngor ariannu cyn cyflwyno’r cynlluniau i’r gymuned.