Gwelliannau Parc Calon Lan

Mae tîm Reach yn gweithio gydag Uned Datblygu Economaidd CBSP i gomisiynu ymgynghorydd arbenigol i gynnal astudiaeth ddichonoldeb, i benderfynu a ddylid gosod hwb gwaith llesiant cynaliadwy ac amryw welliannau ym Mharc Calon Lan yng Nghwm Garw.

Mae Parc Calon Lan yn destun cytundeb prydles hirdymor rhwng CBSP a Chyngor Cymuned Cwm Garw (GVCC), er mwyn gallu rheoli’r Parc yn barhaus.   Bydd yr astudiaeth yn ystyried a fyddai gosod hwb gwaith llesiant gyda chapasiti a chyfleusterau gweithio o bell yn hyfyw.   Bydd yr astudiaeth hefyd yn ystyried gwaith tirlunio, ail-sefydlu/ehangu llwybrau beicio mynydd yn yr ardal, llwybrau cerdded o amgylch y parc, gwelliannau i arwyddion llwybrau, cyfleusterau dehongli’r parc a mannau o ddiddordeb, yn ogystal â’r posibilrwydd o ailddatblygu’r trac pwmp ar y safle.

Yn 2021, bu Cyngor Cymuned Cwm Garw a Reach yn gweithio i ddatblygu Cynllun Gweithredu 5 mlynedd ar gyfer Cwm Garw Uchaf.  Roedd proses llunio’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys ymgynghori helaeth gyda’r gymuned a rhanddeiliaid.  Gweledigaeth y Cynllun Gweithredu oedd:  amgylchedd naturiol iach a gweithredol sy’n cefnogi iechyd, llesiant ac economi Cwm Garw Uchaf a’i drigolion.    Daeth themâu wedi eu diffinio’n glir i’r amlwg yn y Cynllun Gweithredu (2021) oedd yn troi o gylch amgylchedd naturiol Cwm Garw Uchaf.  Roedd y rhain yn cynnwys cymorth i wella’r fioamrywiaeth bresennol trwy brosiectau plannu a chreu cynefinoedd naturiol a darpariaethau chwarae naturiol.  Gwella ac ehangu’r llwybrau a’r cyfleusterau beicio mynydd.  Arwyddion gwell ar gyfer llwybrau teithio llesol i gynnwys cerddwyr, marchogion a beicwyr mynydd a mwy o farchnata i godi proffil yr ardal.    Bydd yr astudiaeth hon yn parhau i archwilio’r opsiynau hyn ac anghenion y gymuned.

Parc Calon Lan

 


Oriel y prosiect