KPC Youth

Canolfan amlweithgaredd i bobl ifanc yw KPC Youth, ac mae’n gweithredu mewn ardal amddifad iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ganolfan yn cynnig opsiwn fforddiadwy i blant a phobl ifanc ar gyfer cael gafael ar amrywiaeth o weithgareddau corfforol, creadigol a chymdeithasol, ac mae cymorth ac arweiniad ar gael gan weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr.

Sylweddolodd tîm KPC fod angen gwella neu ymestyn rhai o’r cyfleusterau a’r adnoddau sydd yn y clwb, er mwyn cydymffurfio â thelerau yswiriant ac ymestyn defnydd posibl yr adeilad.

Ym mis Gorffennaf 2025, ymgeisiodd tîm KPC Youth am arian gan gynllun y Grant Cyfalaf Cymunedau Gwydn ar gyfer cynorthwyo gyda chynlluniau i wella’r cyfleusterau. Ar ôl i’r grant gael ei gymeradwyo gan y Tîm Reach, bu modd i’r tîm ddechrau prynu’r offer angenrheidiol.

Mae’r arian wedi helpu i gynyddu ymgysylltiad y cyfranogwyr ac ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael i sefydliadau allanol sy’n rhentu’r eiddo. Mae’r teledu clyfar a’r gliniadur o fudd i’r bobl ifanc sy’n mynychu’r clwb yn ystod y dydd trwy ddarparu profiadau addysgol a diddorol amgen, ac mae’r clwb yn cael rhagor o geisiadau ar gyfer archebu ystafelloedd o ganlyniad i’r adnoddau digidol gwell. Mae’r helmedi a brynwyd wedi galluogi rhagor o bobl ifanc i ddefnyddio’r parc sglefrio, gan annog ymarfer corff, iechyd a llesiant; ac mae’r seinyddion Bluetooth a’r microffonau a brynwyd wedi ysbrydoli creadigrwydd cerddorol – yn wir, cymerodd dau aelod ifanc ran mewn taith gyfnewid, gan deithio i’r Goethe-Institut yn yr Almaen i greu fideo cerdd o ganlyniad i’w diddordeb ysol mewn cerddoriaeth, drama a pherfformio.