Parc Chwarae Tŷ Talwyn
Mae tîm Reach yn cynorthwyo Cyngor Cymuned y Pîl i gynnal ymgynghoriad â’r trigolion fel rhan o drefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol mewn perthynas â’r tir y tu ôl i Rodfa Tŷ Talwyn.
Ym mis Chwefror 2023 cymeradwyodd Grŵp Llywio Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fynegiant o ddiddordeb Cyngor Cymuned y Pîl mewn trefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol mewn perthynas â thir yn Rhodfa Tŷ Talwyn i ddarparu parc chwarae a dôl blodau gwyllt ar dir y tu ôl i Rodfa Tŷ Talwyn. Un o amodau penodol y gymeradwyaeth oedd bod y Cyngor Cymuned yn cynnal ymgynghoriad addas â phreswylwyr.
Cynhyrchwyd dyluniadau bras amlinellol o’r parc chwarae arfaethedig gan Geoff Whittington yn 2022 ac mae angen ymgynghoriad cymunedol helaeth i gynnwys trigolion yn y prosiect a chael adborth ar ba elfennau o’r cynnig chwarae fyddai’n apelio fwyaf at drigolion lleol. Yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol, bydd y canlyniadau’n cael eu hystyried wrth ail-ddylunio’r parc ac yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Cymuned i’w hystyried.
Nod tymor hwy’r prosiect hwn yw darparu parc chwarae modern, gydag offer priodol ar gyfer plant o bob oed. Y parc chwarae agosaf i’r safle arfaethedig yw parc bach yn Commercial Street, Mynydd Cynffig. Bydd yr offer chwarae arfaethedig a’r ddôl blodau gwyllt yn rhoi cyfle i blant o bob oed gadw’n heini ac yn egnïol, ac mae hynny’n cyfrannu at gorff a meddwl iach. Bydd y prosiect tymor hwy hwn yn darparu man lle gall teuluoedd gwrdd â theuluoedd eraill i feithrin a chynnal ymdeimlad o ysbryd cymunedol yn yr ardal, gan helpu i leddfu teimladau o unigedd ac allgáu cymdeithasol a deimlir weithiau gan rieni plant ifanc.