Parc Cymunedol Corneli

Mae tîm Reach yn cefnogi Cyngor Cymuned Corneli i gynnal ymgynghoriad cymunedol a phenderfynu beth yw gofynion y gymuned leol mewn perthynas â Pharc Cymunedol Corneli.

Hoffai’r Cyngor Cymuned ystyried gosod parc sgrialu a/neu nodweddion eraill ym Mharc Cymunedol Corneli.   Mae’r ddarpariaeth ar gyfer ieuenctid yn ardal Corneli yn gyfyngedig ac mae’r Cyngor yn teimlo y byddai hyn o fudd i’r ieuenctid drwy roi rhywle iddynt fynd a gallu cymdeithasu, ymarfer corff a dysgu sgiliau newydd.

Mae’r Cyngor yn y broses o gymryd prydles y parc ar ffurf trefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol ac yn bwriadu gwneud gwelliannau a fydd o fudd i holl aelodau’r gymuned.    Mae llwybrau newydd wedi’u gosod yn ddiweddar ac erbyn hyn maen nhw’n teimlo y gallai parc sgrialu a/neu nodweddion eraill ddod yn ganolbwynt i’r ardal a rhoi ffocws i bobl iau.

Mae tîm Reach yn cefnogi’r Cyngor Cymuned drwy gomisiynu ymgynghorydd i gynnal ymgynghoriad helaeth gyda thrigolion lleol, i gael eu mewnbwn ar yr hyn yr hoffent ei weld yn eu parc cymunedol.  Mae ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn cynnwys parc sgrialu, a fydd yn cyd-fynd â datblygu ardaloedd eraill i gynnwys coed ychwanegol ac ardaloedd blodau gwyllt i wneud y parc yn boblogaidd gyda phob oedran ac i fod yn rhan ganolog o’r gymuned.

Cyngor Cymuned Corneli


Oriel y prosiect