Caeau Chwarae Pen-coed
Gofynnodd Clwb Rygbi Pencoed am gymorth i ymchwilio i’r posibilrwydd o osod ramp i alluogi unigolion sydd â llai o symudedd i gael mynediad at y maes chwaraeon, ar gyfer gwylio a chymryd rhan mewn rygbi yng Nghaeau Chwarae Pen-coed. Mae tîm Reach yn cefnogi’r clwb drwy gomisiynu archwiliad hygyrchedd, a fydd yn eu hysbysu o’u hopsiynau i ddatblygu mynediad mwy addas i ddefnyddwyr ac adnabod arianwyr posibl i gynorthwyo gyda chostau gwaith tirlunio a gosod ramp.
Pwrpas archwiliad mynediad yw asesu pa mor hawdd ydyw hi i ystod eang o ddefnyddwyr posibl, gan gynnwys pobl anabl, gael mynediad i’r adeilad ac i’w ddefnyddio. Mae’r archwiliad yn rhoi “cipolwg” ar yr adeilad ar un adeg yn ei hanes. Gan ei fod yn nodi pa feysydd y gellid eu gwella a chan ei fod yn cynnwys asesiad risg cyffredinol, gallwch ei ddefnyddio fel y cam cyntaf i greu cynllun gweithredu parhaus ar gyfer mynediad.
Gwnaeth yr archwiliad mynediad sawl argymhelliad i wella mynediad i’r safle, a darparodd gynllun gweithredu a oedd yn blaenoriaethu’r argymhellion hynny o ran brys.
Mae Clwb Rygbi Pencoed yn gallu defnyddio’r adroddiad hwn i geisio nawdd gan gyllidwyr cyfalaf er mwyn gwneud y gwelliannau a nodwyd.