Prosiect Cymunedol Llangynwyd Rangers

Mae tîm Reach yn gweithio gyda Llangynwyd Rangers i gomisiynu adroddiad dichonoldeb ac uwchgynllun i wella’r ddarpariaeth gymunedol a chwaraeon yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd, gan gynnwys gwell cyfleusterau chwarae a hyfforddiant a chyfleusterau cymdeithasol.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn darparu cynllun datblygu cyfleusterau fesul cam i adeiladu ar y buddsoddiad diweddar gan Sefydliad Pêl-droed Cymru i ad-drefnu ac ymestyn yr adeilad presennol ar y safle, er mwyn darparu cyfleusterau newid ychwanegol.

Mae’r Clwb yn rhoi cyfleoedd i blant, pobl ifanc a nifer cynyddol o chwaraewyr benywaidd gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol lleol wedi’u trefnu yn yr awyr agored. Mae ganddynt adran fach ac iau helaeth, 4 tîm merched iau, 2 dîm dynion hŷn ac un tîm menywod.

Mae CBDC wedi darparu Amgylcheddau fel canllaw i roi gwell cefnogaeth i fenywod a merched sy’n cymryd rhan o ran defnyddio cyfleusterau chwaraeon.   Bydd y prosiect sydd ar y gweill i wella’r cyfleusterau newid yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd yn mynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â’r canllawiau hyn.   Fodd bynnag, mae’n amlwg o drafodaethau gydag aelodau benywaidd bod angen gwelliannau o hyd o ran cyfleusterau chwarae a hyfforddi i gadw chwaraewyr a thyfu’r aelodaeth ymhellach.

Yn dilyn sgyrsiau cychwynnol gyda chyllidwyr posibl gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru, mae yna gyfleoedd i ddenu cyllid allanol sylweddol i gyfrannu at y costau cyfalaf sy’n gysylltiedig â chyflawni’r uwchgynllun fesul cam a fydd yn cael ei gynhyrchu o ganlyniad i’r prosiect hwn.

Llangynwyd Rangers


Oriel y prosiect