Prosiect Dichonoldeb MEM
Mae clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel (MEM) yn gweithio gyda thîm Reach i gomisiynu ymgynghorydd i gynnal astudiaeth ddichonoldeb, ymchwilio i gyfleoedd cyllido posibl a rhoi cyngor proffesiynol ynghylch ceisiadau am gyllid.
Mae’r Clwb Bechgyn a Merched yn rheoli neuadd brysur yn ddyddiol, sy’n cynnwys cael sgyrsiau gyda defnyddwyr a gwrando ar eu pryderon a’u problemau o ran defnyddio’r neuadd. Yn ogystal ag ymwneud yn bersonol â defnyddwyr y neuadd yn ddyddiol, bu cryn ymgysylltu ac ymgynghori â’r gymuned dros y blynyddoedd. Gan adeiladu ar yr ymgynghoriad a wnaeth Reach ar gyfer adnewyddu’r neuadd yn flaenorol, ers hynny bu arolygon ar-lein, holiaduron, ac ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dudalen Facebook y neuadd.
Mae’r angen am wresogi’r neuadd yn well yn dod i’r amlwg yn yr holl ymgynghori hwn a’r drafodaeth gyda defnyddwyr y neuadd. Mae gan y neuadd system wresogi isgoch o’r radd flaenaf, ond mae’r costau trydan yn golygu na ellir defnyddio’r system yn iawn. Mae’r neuadd yn gweithio tuag at sicrhau cyllid grant i wella’r ddarpariaeth paneli solar a gwella’r neuadd yn gyffredinol.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys adolygiad bwrdd gwaith o astudiaethau a wnaed eisoes, cynorthwyo gyda blaenoriaethau sefydliadol, cynnal archwiliad o daliadau tariff y paneli solar presennol, adolygiad o’r adeilad presennol, cefnogi’r grŵp i gael mewnbwn gan beirianwyr y system wresogi isgoch, ystyried dichonoldeb panel solar ychwanegol, datblygu cynllun wedi’i brisio ar gyfer gwella’r neuadd, cynorthwyo o ran cyfeirio at gyllid sydd ar gael a darparu arweiniad ar gwblhau ceisiadau grant yn y dyfodol.
Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel (MEM)