Safle Ysgol Blaencaerau
Mae Prosiect Datblygu Ieuenctid Noddfa yn gweithio gyda thîm Reach i gynnal astudiaeth ddichonoldeb fydd yn datblygu opsiynau ar gyfer defnyddio’r safle yn ysgol Blaencaerau ym Maesteg.
Mae Prosiect Cymunedol Noddfa yn cynnig cyfleoedd a gwasanaethau i’r gymuned gael mynediad at ddarpariaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion drwy weithgareddau, prosiectau, clybiau, gweithdai, hyfforddiant, dysgu anffurfiol, dysgu achrededig a gweithgareddau dydd a nos yn y ganolfan gymunedol ac mewn mannau cymunedol.
Gwnaeth y grŵp gais i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol ar gyfer cynnal astudiaeth ddichonoldeb i’w cynorthwyo wrth ystyried ymgymryd â threfniant trosglwyddo ased cymunedol (CAT) mewn perthynas â safle hen Ysgol Iau Blaencaerau. Llosgodd yr ysgol i lawr ac mae’r safle wedi ei adael ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, prin yw’r cyfleusterau chwarae a chwaraeon awyr agored yng Nghaerau sydd â mynediad agored ac sy’n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel, bod yn egnïol, mwynhau cymdeithasu a chael hwyl gyda’i gilydd yn eu cymuned.
Hoffai’r gymuned weld safle Ysgol Blaencaerau yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned, gyda’r posibilrwydd o Ardal Gemau Amlddefnydd, Ysgubor Chwaraeon Dan Do ac ardaloedd chwarae awyr agored fel tenis bwrdd a wal ddringo ac ati.
Mae tîm Reach wedi dyrannu cyllid i gomisiynu ymgynghorydd arbenigol i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb. Bydd yn ymgynghori â phobl ifanc, datblygu opsiynau ar gyfer defnydd a datblygiad y safle, ystyried a fyddai gosod adeilad mawr tebyg i sied yn bosibl, yn prisio a rhoi gwybodaeth ynglyn â chaffael y safle, canfod cronfeydd cyfalaf a allai fod ar gael i symud ymlaen i gam nesaf y prosiect a chyflwyno’r holl wybodaeth sydd ei hangen mewn adroddiad cynhwysfawr.
Prosiect Datblygu Ieuenctid Noddfa