Y Neuadd Goffa – Nant-y-moel
Mae’r Neuadd Goffa yn Nant-y-moel yn gyfleuster pwysig sydd wrth galon y gymuned, a chaiff ei defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eang o grwpiau, gweithgareddau a digwyddiadau lleol. A hithau’n ased cymunedol gwerthfawr, ac er mwyn sicrhau ei chynaliadwyedd yn yr hirdymor, mae’n hollbwysig sicrhau bod y neuadd yn parhau i fod yn ddiogel, yn weithredol ac yn ynni-effeithlon.
Yn 2024, comisiynodd ac ariannodd y tîm Cymunedau Gwydn astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr, a gyflawnwyd gan Bro, i archwilio opsiynau effeithlonrwydd ynni ac opsiynau eraill i wella’r Neuadd. Diben yr astudiaeth oedd archwilio opsiynau ar gyfer gwella’r neuadd, yn cynnwys gwella’i heffeithlonrwydd ynni, moderneiddio’r adeilad, a sicrhau ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr. Roedd y gwaith dichonoldeb yn cynnwys asesu cyflwr yr adeilad, cynnal adolygiad ynni a llunio cynllun gweithredu manwl yn nodi gwelliannau posibl.
Wrth i’r prosiect gyrraedd y cam ‘cynllunio gweithredu’, un argymhelliad hollbwysig a nodwyd oedd gosod drysau mewnol newydd, yn cynnwys drysau tân gwell, er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau faint o wres a oedd yn dianc, a gwella diogelwch yn y neuadd. Ystyriwyd bod y gwelliannau hyn yn hanfodol i sicrhau y bydd yr adeilad yn gadarnach ac yn fwy cost-effeithiol i’w weithredu.
Yn dilyn yr argymhelliad hwn, yn 2025 cyflwynodd y Pwyllgor Rheoli gais i’r tîm Cymunedau Gwydn am grant cyfalaf ar gyfer cynorthwyo i osod y drysau newydd. Bu’r cais yn llwyddiannus a darparwyd yr arian ar gyfer cynnal y gwaith.
Diolch i’r gefnogaeth hon, mae gan Neuadd Goffa Nant-y-moel ddrysau mewnol a drysau tân newydd erbyn hyn, gan wella perfformiad ynni a diogelwch cyffredinol yr adeilad a chan helpu i sicrhau y bydd yn parhau i wasanaethu’r gymuned ymhell i’r dyfodol.

