Cronfa Dichonoldeb Cymunedol

Ariennir y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Lleoedd. Rydym yn cefnogi cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr i wneud gwaith cynllunio cadernid lleol, gan ganolbwyntio ar Iechyd, yr Hinsawdd a’r Economi. Mae’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn parhau â llwyddiant rhaglen Reach gyda’r uchelgais o ddatblygu cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a’u troi’n lleoedd llewyrchus i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw.

Bydd ceisiadau i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn cau ar 28 Chwefror 2024

Y cymorth sydd ar gael

Mae’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn gronfa refeniw yn unig ac mae’n darparu 100% o gostau cymwys y prosiect. Yr isafswm sydd ar gael yw £2,000 a’r uchafswm yw £35,000 (heb gynnwys TAW).

Mae modd defnyddio’r gronfa i ddatblygu a threialu syniadau a all helpu i wella a chynnal cryfder cymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac fe’i dyrennir ar sail y cyntaf i’r felin.

Pwy all ymgeisio?

  • Grwpiau cymunedol neu fudiadau gwirfoddol
  • Elusennau
  • Cynghorau Cymuned / Tref
  • Rhwydweithiau newydd neu rai sy’n bodoli’n barod
  • Mudiadau’r trydydd sector
  • Mudiadau’r sector cyhoeddus

Sut i wneud cais

  • Cysylltwch â reach@bridgend.gov.uk a gofynnwch am ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Llenwch y ffurflen fer hon a’i hanfon yn ôl at reach@bridgend.gov.uk
  • Caiff y Datganiad o Ddiddordeb ei sgrinio i weld a yw’n gymwys a’i adolygu ar gyfer cyllid prosiect uniongyrchol neu ei gyfeirio at ffrydiau ariannu perthnasol eraill.
  • Os ydych yn gymwys, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn gyda chymorth gan Gydgysylltydd Cymunedau Gwydn.
  • Caiff y cais llawn ei gyflwyno i Banel Cymeradwyo Grantiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w adolygu a’i gymeradwyo.
  • Os caiff y prosiect ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â thîm Cymunedau Gwydn Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y tîm yn gweithio gyda chi i gomisiynu’r prosiect ac yn delio â threfniadau’r contractwyr wrth i chi lywio’r prosiect a darparu cyfarwyddyd.

Sut i gysylltu

E-bostiwch: reach@bridgend.gov.uk
Ffoniwch: 01656 815080

Canllawiau i Ymgeiswyr