Asesiad Risg Newid Hinsawdd

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gyda thîm Reach ac arbenigwyr ymaddasu i newid hinsawdd i gynnal asesiad risg newid hinsawdd trwy ymgysylltu â sefydliadau partner, busnesau, grwpiau cymunedol a dinasyddion.

Bydd yr ymchwil hon yn nodi’r wybodaeth a’r dystiolaeth sy’n bodoli eisoes lle mae risg i gymunedau, busnesau, sefydliadau a gwasanaethau yn y cwestiwn, yn penderfynu beth sydd eisoes ar waith neu mewn cynlluniau cyfredol i ymaddasu i’r risgiau hyn, yn adolygu’r arfer da presennol, yn lleol ac yn ehangach, ac yn cael barn a dyheadau ar gyfer gwydnwch ein cymunedau yng Nghwm Taf Morgannwg yn y dyfodol.

https://www.bwrddgwasanaethaucyhoeddusctm.cymru/our-public-service-board


Oriel y prosiect