Astudiaeth Achos Ynysu Preswylwyr Oedrannus Ynysawdre

Sefydlwyd Cymdeithas Preswylwyr Oedrannus Ynysawdre (YERA) i weithredu fel llais y bobl oedrannus sy’n byw yn y gymuned. Er mai prif ddiben y grŵp yw canolbwyntio ar bryderon lleol, mae’r Gymdeithas yn ymwybodol o’r materion ehangach sy’n effeithio ar yr henoed. Mae’r Gymdeithas yn dwyn materion a phryderon sy’n effeithio ar les pobl i sylw cyrff perthnasol.

Mynychwyd cyfarfodydd misol YERA yn rheolaidd ac roeddynt yn weithgarwch cymdeithasol pwysig i’w haelodau. Mae argyfwng Covid-19 wedi golygu na ellir cynnal y cyfarfodydd hyn mwyach, ond mae’r aelodau’n parhau i gefnogi ei gilydd gann fynd i siopa, casglu meddyginiaethau a chadw mewn cysylltiad rheolaidd i sicrhau nad yw pobl ar eu pen eu hunain. Mae’r aelodau’n gwerthfawrogi hyn ond yn ymwybodol hefyd eu bod yn profi mwy o ynysu nag erioed gyda llawer o aelodau ddim yn mentro allan oherwydd eu bod yn cysgodi.

Nid yw’r ynysu cynyddol hwn ymysg pobl hŷn yn sgil Covid yn unigryw i Ynysawdre ac mae’n effeithio ar yr holl wardiau gwledig. Mae’r prosiect hwn yn astudiaeth achos sy’n edrych ar sut mae aelodau YERA wedi’u hynysu o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19. Bydd yr astudiaeth yn edrych ar wahanol ffyrdd o leihau ynysu a dod o hyd i ddulliau arloesol o wasanaethu anghenion Preswylwyr Oedrannus Ynysawdre yn yr argyfwng Covid-19 presennol a’r “normal newydd” wrth i gyfyngiadau Covid ddechrau llacio.

Mae’r prosiect yn ceisio ymchwilio i atebion digidol i’r ynysu ymysg pobl hŷn yn ystod yr argyfwng Covid. Yna mae’n ceisio nodi’r rhwystrau sy’n atal pobl hŷn rhag defnyddio’r atebion hynny cyn gwneud argymhellion pellach i ddymchwel y rhwystrau hynny.

Mae’r astudiaeth achos yn cynnwys:

  • Ymchwiliad i’r ynysu cynyddol sy’n wynebu aelodau yn sgil Covid
  • Argymhellion i leihau’r ynysu
  • Ymchwiliad i atebion digidol i’r ynysu
  • Nodi’r rhwystrau sy’n atal pobl hŷn rhag defnyddio’r atebion hynny
  • Argymhellion pellach i ddymchwel y rhwystrau hynny.

Oriel y prosiect