Bugail Digidol
Adfer, cadw a gwella ecosystemau yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig. Pori er lles cadwraeth sy’n cael ei reoli yw un o’r dulliau mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r her hon. Mae prosiect Bugail Digidol wedi datblygu adnodd digidol sy’n dathlu pori er lles cadwraeth sy’n cael ei reoli ac yn addysgu pobl am ei bwysigrwydd.
Mae’r prosiect yn cydnabod bod angen i bobl ymddwyn yn fwy cyfrifol mewn ardal o bori er lles cadwraeth sy’n cael ei reoli. Mae rheoli cŵn yn well, ystyried adar sy’n nythu ar y ddaear, llai o sbwriel neu dim sbwriel o gwbl ac atal beiciau oddi ar y ffordd yn nodweddion allweddol o’r adnodd digidol ac fe’u hystyrir o fudd i bori er lles cadwraeth sy’n cael ei reoli.
Bydd Bugail Digidol yn treialu technoleg ddigidol i olrhain buchesi a diadelloedd a fydd yn:
- Caniatáu cadw cofnodion ac ystadegau ar gyfer ymchwil a chymharu yn y dyfodol.
- Lleihau costau monitro pori er lles cadwraeth sy’n cael ei reoli, caniatáu i symudiadau buchesi / diadellau gael eu hastudio a chofnodi symudiadau diadell i’w defnyddio fel deunyddiau addysg ar boeni da byw.
Cynhaliodd y prosiect ddigwyddiadau a gweithgareddau allgymorth i gyfeirio pobl at y prosiect.