Cae Pob Tywydd Dyffryn Ogwr
Mae cyfle wedi codi i Gyngor Cymuned Dyffryn Ogwr gyflwyno cais i Sefydliad Pêl-droed Cymru am grant i ariannu datblygiad cae pob tywydd. Mae Reach yn cynorthwyo’r Cyngor i baratoi cynlluniau, lluniadau cysyniad a manylebau prosiect i baratoi ar gyfer y cais am grant.
Yn 2019 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a ariannwyd gan Reach gydag aelodau o’r gymuned leol ac fe gasglwyd ymatebion gan 360 o bobl leol. Nododd yr ymgynghoriad mai Aberfields (a elwir hefyd yn Planka) oedd y lleoliad gorau ar gyfer y cae. Dyffryn Ogwr yw’r unig gymuned yn y cymoedd sydd heb gae pob tywydd sy’n galluogi ysgolion a chlybiau chwaraeon i chwarae gemau chwaraeon ac ymarfer trwy gydol y flwyddyn, gan ddibynnu yn hytrach ar orfod teithio i ardaloedd eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr.