Canolfan Eglwys Wesley Tondu

Canolfan Eglwys Wesley yn Nhondu, eglwys Fethodistaidd a chanolfan gymunedol, yw’r unig leoliad cymunedol yn Nhondu. Mae hi eisoes yn gartref i sefydliadau di-ri sy’n darparu gwasanaethau cymunedol a gweithgareddau yn ystod dyddiau’r wythnos, y nosweithiau ac ar y penwythnosau sy’n cynnwys  Home Educators, Brownis, Trinity Care and Support ac Addoldai Cymru.

Mae’r ganolfan yn sefyll yn bell o’r ffordd ar lethr ac mae ganddi faes parcio bach nad yw’n ddigonol i’w hanghenion, yn awr nac yn y dyfodol. Mae’n anodd iawn mynd i mewn i’r maes parcio ac yn amhosibl i gerbydau mwy fel bysiau mini, gan fod y fynedfa’n gul â dau droad garw. Mae’n anodd hefyd i bobol anabl fynd i mewn gan fod angen i’r cerbydau ddod yn agos iawn at yr adeilad.

Daeth grwp llywio at ei gilydd a bu’n gweithio gyda’r LAG i gomisiynu astudiaeth ar raddfa fach i ymafael a’r problemau hyn ac ail-feddwl y myneidad ac allanfa o’r maes parcio. Daw’r astudiaeth i ben pan fo manylion llawn o’r adluniad ffordd arfaethedig a rhodd o dir wedi eu cadarnhau.

Bydd y prosiect yn gwneud cais maes o law i’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig sy’n rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig, yn ogystal ag arianwyr eraill posibl i roi’r cynlluniau hyn ar waith.