Cymunedau Gwydn Pen-y-bont ar Ogwr: Arolwg Mapio ac Ymchwil
Bwriad y rhaglen Cymunedau Gwydn yw helpu cymunedau lleol i gyflawni gwaith cynllunio gwydnwch lleol sy’n canolbwyntio ar iechyd, yr hinsawdd a’r economi, gyda chysylltiad uniongyrchol â chyflawni strategaethau lleol allweddol. Ei nod yw datblygu egwyddorion cyfalaf cymdeithasol, datblygu cymunedau, rhyngddibyniaeth o fewn cymunedau, gwydnwch a datblygu cymunedol ar sail asedau. Grymuso cymunedau i ganolbwyntio ar eu cryfderau yn hytrach na’u gwendidau, gan ail-feithrin perthynas â dull datganoledig o ddarparu gwasanaeth yn uniongyrchol i’r cymunedau hynny sydd fwyaf ei angen.
Ymarfer mapio ac ymchwil cymunedol oedd y prosiect hwn, i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Rhaglen Cymunedau Gwydn sirol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr – i ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth yn y dyfodol ac ystyried yr heriau ehangach y mae’n eu hwynebu.
https://www.surveymonkey.com/r/cymunedau-gwydn-pen-y-bont-ar-ogwr