Cyngor Tref Porthcawl a Hwb Cymunedol
Mae’r Tîm Cymunedau Gwydn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Porthcawl yn ceisio sefydlu a chostio’r angen am ofod cymunedol newydd ar gyfer y dref gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o broses adfywio ehangach Porthcawl, a rhagwelwn y bydd yr adeilad newydd hwn yn gwasanaethu fel lleoliad canolog i’r Cyngor Tref, yn ogystal â chynnig mannau amlbwrpas i grwpiau cymunedol ac ymwelwyr eu defnyddio.
Teimlwn ei bod yn bwysig bod y cyfleuster hwn yn diwallu anghenion a dyheadau pobl leol ac yn rhanddeiliad cymunedol allweddol ym Mhorthcawl byddem yn gwerthfawrogi’n fawr eich mewnbwn i’r prosiect hwn.
Felly, hoffem eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni ar gyfer un o ddau weithdy rydym yn eu cynnal ar ddiwedd y mis. Yn y digwyddiadau hyn byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am y prosiect ac yn gofyn i chi rannu’ch syniadau, gofyn cwestiynau a helpu i lunio dyfodol y prosiect hwn.
Cynhelir y gweithdai Dydd Mercher 25 Medi 2024 yn Eglwys y Drindod, Porthcawl, CF36 3DT:
- Gweithdy 1: 12:30pm – 2:30pm
- Gweithdy 2: 6:00pm – 8:00pm
Mae presenoldeb trwy wahoddiad yn unig a gofynnwn i chi ddanfon RSVP os gwelwch yn dda trwy lenwi’r ffurflen gofrestru, gan nodi’r sesiwn yr hoffech ei fynychu. Os oes gennych fwy nag un cynrychiolydd o’ch sefydliad a hoffai fynychu, rhowch wybod i ni.
Mae mynediad i’r anabl ar gael yn y lleoliad ac os oes unrhyw ofynion ychwanegol a fyddai’n eich helpu i fynychu’r digwyddiad yna rhowch wybod i ni. Darperir lluniaeth hefyd drwy gydol y sesiwn.
Os na allwch ddod i’r gweithdy, gallwch hefyd rhoi adborth ar y prosiect trwy lenwi’r arolwg ar-lein. Mae’r arolwg ar gael o 24 Medi am bythefnos nes 9 Hydref.
Gallwch weld/lawrlwytho’r daflen ar gyfer y gweithdy yma a’r Byrddau Arddangos yma.
Os oes gennych unrhyw syniadau neu gwestiynau penodol ymlaen llaw, mae croeso i chi eu rhannu gyda ni drwy e-bostio communityspace@grasshopper-comms.co.uk.