Cynhwysiant Digidol

Gweithiodd Reach ochr yn ochr ag aelodau Rhwydwaith Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr (BEN) i greu dull cyffredinol o ddarparu hyfforddiant digidol sy’n rhoi “mynediad i bawb”. Nod y prosiect oedd mynd i’r afael â phryderon y bydd symud yr holl fudd-daliadau i blatfformau digidol ar gyfer Credyd Cynhwysol (CC) erbyn 2028 yn achosi i rai unigolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol golli mynediad at eu budd-daliadau. Roedd y prosiect yn ceisio adnabod pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol a’u paratoi ar gyfer symud i fynediad digidol-yn-unig at CC.

Cafodd y prosiect hyfforddiant digidol sy’n rhoi “mynediad i bawb” ei dreialu o fewn ffiniau Cyngor Cymuned Cwm Garw. Roedd hefyd yn targedu pobl o oedran gweithio, gan fod cymorth trwy’r cwricwlwm ar gyfer cynhwysiant digidol yn bodoli ar hyn o bryd i’r rhai sy’n dal i fod mewn addysg

Ystyriodd yr ymgynghorydd arbenigol agweddau fel datblygu rhaglen hyfforddi achrededig, cynnal ymarfer ymgynghori i adolygu’r anghenion lleol am hybiau sgiliau digidol ac adnabod hybiau priodol yng Nghwm Garw i leoli’r hyfforddiant ynddynt.  Ar ddiwedd y prosiect, lluniwyd adroddiad yn manylu ar effeithiolrwydd y rhaglen ac yn gwerthuso’r effaith ar gyfer y gymuned leol.

Rhwydwaith Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr


Oriel y prosiect