Cysylltiadau Cymunedol

Yn flaenorol fe wnaeth tîm Reach adnewyddu Neuadd Gymunedol Heol Y Cyw i fod yn hyb digidol, a oedd yn cynnwys band eang cyflym, seilwaith TGCh, sgrîn sinema a system sain.  Ar yr un pryd gosododd CBSP a Cwmpas galedwedd ddigidol debyg mewn sawl canolfan gymunedol arall.  Y syniad arfaethedig gyda’r prosiect hwn yw ei gwneud yn bosibl i weithgareddau mewn un neuadd gael eu ffrydio’n fyw i neuaddau eraill ledled y Fwrdeistref.

Mae Reach a Cwmpas wedi ymgysylltu gryn dipyn â’r gymuned yn ystod y prosiectau adnewyddu ac roedd y grwpiau cymunedol wedi mynegi angen am gymorth i drefnu gweithgareddau a chydweithio, sydd wedi arwain at y prosiect peilot awgrymedig hwn.

Fel ymateb lleol i liniaru effeithiau newid hinsawdd, mae angen i wasanaethau a gweithgareddau fod yn fwy lleol a galluogi pobl i gael mynediad at y rhain trwy deithio llesol.  Mae yna lawer o unigolion agored i niwed a allai gael budd o weithgareddau yn nes at adref, yn hytrach na gweithgareddau canolog sy’n golygu bod angen cludiant ac amser i ymgysylltu.

Mae tîm Reach yn cefnogi’r prosiect trwy ddarparu astudiaeth ar draws pum neuadd gymunedol, sef Neuadd Gymunedol Heol y Cyw, Cefn Cribwr, Richard Price Llangeinor, Canolfan Will Trigg Blaengarw a Chanolfan Gymunedol y Goetre Hen. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys ymgynghoriad cymunedol, ymgysylltu â phwyllgorau gwirfoddol neuaddau cymunedol, dylunio rhaglen weithgareddau, cynhyrchu cynllun wedi’i gostio’n llawn, treialu’r rhaglen weithgareddau a chan ddiweddu â gwerthusiad helaeth.


Oriel y prosiect