Gardd Gymunedol Parc Caedu
Cynorthwyodd tîm Reach Gyngor Cymuned Dyffryn Ogwr (CCDO) i gynnal ymgynghoriad cymunedol a dyluniadau tirwedd proffesiynol dilynol, i ddylunio gardd lesiant a choffa gymunedol ym Mharc Caedu, hen safle planhigfa yn Park Avenue, Cwm Ogwr.
Cefnogir y prosiect hwn hefyd o dan raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Cymeradwywyd dyheadau CCDO i drosglwyddo’r safle, yn amodol ar ddarparu cynlluniau prosiect / lluniadau / darluniau a rhestr feintiau.
Y bwriad yw sicrhau cyllid allanol, y gellid darparu arian cyfatebol tuag ato o ffynonellau CCDO, a dechrau ar y gwaith adeiladu cyn gynted â phosib.