Hyb Digidol Heol-y-cyw

Astudiaeth beilot yw’r prosiect sy’n ceisio dod â band eang i Neuadd Les Heol y Cyw a’i wneud yn hyb digidol ar gyfer y gymuned. Bydd yr hyb yn cynnig cynhwysiant digidol drwy ddarparu hyfforddiant a dulliau arloesol o addysgu yn y cartref.

Mae troi ein Neuadd Les yn hyb Digidol yn brosiect peilot unigryw yng nghefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw un arall yn gwneud rhywbeth tebyg. Yn wir, y ffaith bod Heol y Cyw yn bell o lawer o lefydd sy’n creu’r angen am ddarpariaeth gwasanaethau digidol lleol iawn yn y gymuned.

Mae’r neuadd yn ddigon mawr ac yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer dosbarthiadau dawns a grwpiau cymunedol. Mae mewn lle canolog yn y pentref. Trwy osod band eang a WiFi, bydd y neuadd yn dod yn adnodd digidol modern y gall holl breswylwyr y pentref ei ddefnyddio.

Dylai’r rhan fwyaf o Ben-y-bont ar Ogwr gael mynediad i adeilad cymunedol ar droed neu ar feic. Mae’r prosiect yn ceisio gosod esiampl i’r cymunedau hynny i ddangos iddynt sut y gellir troi adeilad cymunedol yn hyb digidol. Bydd yr adroddiad ar y prosiect ar gael i’r cyhoedd ac yn cael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos ac enghraifft o arfer da gan Gronfa Gymunedol Cefn Gwlad Llewyrchus.

Trwy’r adroddiad gall cymunedau eraill ddysgu o gamgymeriadau a llwyddiannau’r prosiect. Byddant yn dysgu pa weithgareddau sy’n gweithio a pha rai sydd ddim. Bydd y prosiect yn dangos ffyrdd arloesol newydd o ymgysylltu â phreswylwyr sy’n addysgu neu weithio gartref, a gobeithio y bydd eraill yn elwa ar rannu’r dysgu hwnnw.


Oriel y prosiect